Fe fydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn dechrau cyfres o streiciau heddiw yn yr anghydfod gyda’r Llywodraeth ynglŷn â phensiynau.
Fe fydd aelodau o Undeb y Brigadau Tân (FBU) yn streicio rhwng 12-2 heddiw ac eto am 11yh tan hanner nos heno.
Bydd y streiciau’n cael eu cynnal ar yr un amser dros yr wyth diwrnod nesaf.
Mae disgwyl y bydd cynlluniau mewn lle yn ystod y streic, gan gynnwys defnyddio staff sydd ar gytundebau.
Mae’r undeb wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf yn erbyn cynlluniau dadleuol y Llywodraeth i newid eu pensiynau.
Mae’r FBU yn honni y bydd yn rhaid i ddiffoddwyr tân weithio’n hirach a chael llai o bensiwn pan fyddan nhw’n ymddeol. Mae’r undeb wedi cyhuddo’r Llywodraeth o “gerdded i ffwrdd” o’r trafodaethau yn gynharach yr wythnos hon.