Mae swyddogion Cyngor Môn wedi llwyddo i gael Gorchymyn Llys i symud teithwyr sydd wedi meddiannu maes parcio Sioe Môn.

Ychydig ddyddiau cyn i tua 60,000 o ymwelwyr heidio i’r digwyddiad amaethyddol ger Llangefni, mae degau o garafanau yn parhau i fod ar y safle ers iddyn nhw gyrraedd yno ddydd Sul.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Môn, sy’n berchen y tir, mae rhai o’r teithwyr wedi cychwyn symud o’r safle o ran eu gwirfodd. Ond mae’r cyngor am wneud popeth o fewn eu gallu i symud gweddill y teithwyr oddi yno cyn i’r digwyddiad blynyddol gychwyn ddydd Mawrth nesaf.

Mae’r Gorchymyn yn dweud bod yn rhaid i’r teithwyr fod wedi gadael erbyn naw bore Llun nesaf.

“Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau y bydd safle Parcio a Theithio Sioe Môn ar gael”, meddai llefarydd ar ran y cyngor.