Mae’r sêr chwaraeon Aled Sion Davies a Stephen Jones ymysg yr unigolion sydd wedi’u derbyn i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli heddiw.
Yr anrhydeddau blynyddol yw’r cyfle i roi clod i unigolion o bob cwr o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol.
Newydd ddychwelyd mae Aled Sion Davies o Glasgow ar ôl bod yn gapten ar dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad, ble buon nhw’n llwyddiannus tu hwnt.
Cipiodd y tîm 36 medal, eu cyfanswm uchaf erioed, gyda Davies yn ennill medal arian yn y gystadleuaeth para-athletau taflu disgen.
Yn ogystal â’r athletwr Paralympaidd, mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru a’r Scarlets Stephen Jones yn wedi cael ei anrhydeddu. Cafodd dros gant o gapiau dros ei wlad a bu’n gapten ar y tîm.
Ymysg y lleill i’w hurddo mae’r darlledwr Arfon Haines Davies, Cyfarwyddwr Merched y Wawr Tegwen Morris, a Megan a Gwilym Tudur, ymgyrchwyr dros yr iaith a pherchnogion Siop y Pethe, Aberystwyth.
Caiff Duncan Brown o’r Waunfawr a’r Athro Helmut Birkan, sylfaenydd Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, yn derbyn y Wisg Las, tra bod Megan Williams o Drefor a Geoffrey Thomas, Cadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant, y Wisg Werdd.