Simon Brooks
Gallai cenedlaetholdeb Saesneg fod yn fygythiad i Gymru petai’r Alban yn gadael y Deyrnas Unedig yn sgîl y refferendwm fis nesa’, yn ôl yr academydd Simon Brooks.

Galwodd ar Gymru i geisio datblygu ei dinasyddiaeth ei hun fel ymateb i’r rhethreg gan blaid UKIP a ffynhonellau eraill sydd ddim, yn ei farn ef, yn berthnasol i sefyllfa Cymru.

Roedd Dr Brooks yn traddodi darlith i’r Sefydliad Materion Cymreig ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ddoe, gyda thua 100 o bobl yn bresennol ym Mhabell y Cymdeithasau i wrando arno.

Fe awgrymodd nad oedd yn rhannu barn rhai y byddai cenedlaetholdeb Cymru hefyd yn cryfhau yn sgil twf cenedlaetholdeb yn Lloegr.

“Tase cenedlaetholdeb Saesnig yn mynd yn wrth-Gymreig, dw i ddim yn meddwl y byddai gennym ni obaith caneri,” meddai.

Dywedodd y byddai’n “llawer mwy tebygol fod Cymru a Lloegr am ymuno” fel gwlad petai’r Alban yn gadael Prydain, gan ddisgrifio Cymru fel ‘the only Celt in the village’ yn y ‘Little Britain’ fyddai’n weddill.

“Os fydd y Saeson yn penderfynu gwneud rhywbeth mi fydd o’n digwydd,” meddai Simon Brooks mewn cyfweliad â golwg360.

“Felly bydd twf cenedlaetholdeb Saesneg … yn gallu bod yn fygythiad [i Gymru] yn hynny o beth.”

Datblygu dinasyddiaeth

Mynnodd fod yn rhaid i Gymru ddatblygu ei dinasyddiaeth ei hun yn sgil y sylw diweddar o fewn gwleidyddiaeth Prydain ar fewnfudwyr, ble mae’r prif bleidiau i gyd bellach yn gytûn fod yn rhaid i unrhyw fewnfudwyr ddysgu Saesneg.

Ac mae’n tybio y byddai’n edrych yn dra gwahanol i’r rhethreg y mae’n teimlo sydd yn cael ei osod gan blaid UKIP ar hyn o bryd.

“Pe bawn ni yng Nghymru’n trafod dinasyddiaeth … bydden ni siwr o fod yn dod i’r casgliad y bydden ni eisiau cynorthwyo mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg a Saenseg, neu Cymraeg neu Saesneg,” meddai Simon Brooks.

“Ond fysen ni ddim yn dod fyny gydag ateb sy’n dweud ‘er mwyn bod yn ddinesydd Cymraeg mae’n rhaid i chi ddysgu Saesneg’.”

Gwyliwch gyfweliad Simon Brooks â golwg360 isod: