Rhai o griw Y Byd ar Bedwar yn derbyn gwobr BAFTA Cymru am faterion cyfoes y llynedd (Llun o wefan y rhaglen)
Mae un o newyddiadurwyr teledu mwya’ profiadol Cymru wedi beirniadu S4C am symud ei phrif raglen faterion cyfoes allan o’r oriau brig ac “i’r ymylon”.
Fe rybuddiodd Eifion Glyn, Uwch gynhyrchydd gyda’r Byd ar Bedwar, y byddai hynny’n chwalu’r gynulleidfa ac yn golygu na fyddai straeon materion cyfoes yn cyrraedd trwch y boblogaeth.
Mae S4C wedi ymateb i’r feirniadaeth trwy ddweud eu bod yn cynllunio amserlen i “gynnig y gwasanaeth ehanga a mwya’ cytbwys bosib”.
“Mae’r cynlluniau i symud Y Byd Ar Bedwar hanner awr yn rhan o’n hymdrechion i wella cydbwysedd yr amserlen, a rhoi’r gwasanaeth gorau i’n cynulleidfa,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys y sianel, Dafydd Rhys.
Torri cyllid hefyd
Fe ddywedodd Eifion Glyn wrth golwg360 fod cyllideb y rhaglen hefyd wedi cael ei thorri o “tua thraean” yn ystod y blynyddoedd diwetha’ a fod hynny a’i symud i slot hwyr y nos yn “siomedig iawn”.
“Mae’r cyfuniad o’r ddau beth – y tocio a’r ffaith eu bod nhw’n gwthio ein rhaglen ni i’r ymylon yn ddigon i dorri eich calon chi,” meddai.
Elfen arall yn ei bryder oedd perthynas S4C a’r BBC, sy’n gyfrifol am y rhan fwya’ o arian y sianel – roedd yn poeni y gallai’r BBC gael mwy a mwy o’r gwaith materion cyfoes.
‘I’r ymylon’
Newydd glywed y mae HTV, cynhyrchwyr y Byd ar Bedwar, ei bod yn cael ei symud i ddeg o’r gloch y nos o’r oriau brig.
Y tro diwetha’ iddi fod mewn slot debyg, roedd y gynulleidfa wedi cwympo’n sylweddol, meddai Eifon Glyn, sydd ar fin ymddeol.
‘Diffyg cefnogaeth’
Ond roedd hefyd yn dadlau bod y symud yn arwydd o ddiffyg cefnogaeth i faterion cyfoes a fyddai’n apelio at drwch y boblogaeth.
“Mae’n ymddangos rwan na fydd yna ddim cyfle i straeon gwirioneddol Gymraeg a Chymreig at ddant pawb,” meddai Eifion Glyn.
“Mae gynnon ni dîm o newyddiadurwyr ifanc da efo tân yn eu boliau i fynd ar ôl straeon da.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan S4C.