Yr Eisteddfod Genedlaethol
Fe ymwelodd 15,856 o bobol â’r Eisteddfod Genedlaethol ddoe o’i gymharu â 16,285 ar y dydd Llun.

Roedd y ffigwr hefyd yn llai na’r 17,813 wnaeth ymweld ag Eisteddfod Dinbych ar y dydd Mawrth y llynedd ond yn fwy na’r  13,126 wnaeth ymweld ag Eisteddfod y Fro yn 2012.

Gwylnos Gaza

Ac ar y maes neithiwr roedd dros 150 o bobl wedi ymgynnull tu allan i babell Cymorth Gristnogol  i gynnal gwylnos i gofio’r rhai sydd wedi eu lladd yn Gaza.

Cathrin Daniel o Gymorth Cristnogol yn siarad am yr wylnos:

Uchafbwyntiau

Lleucu Roberts o Rostryfan, Caernarfon oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ddoe.

Mae’r uchafbwyntiau o’r pafiliwn heddiw’n cynnwys y Fedal Ryddiaith am 4:30 a chyhoeddi enw Tlws y Cerddor am 6:55.

Yna mewn seremoni ym Mharc y Scarlets heno, bydd enillydd Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei gyhoeddi.

Cofiwch am bodlediad dyddiol Golwg360 o’r maes hefyd. Enillydd y Goron, Guto Dafydd, ac un o drefnwyr Cwpwrdd Nansi, Elliw Iwan, oedd yn ymuno a Non Tudur ddoe.