Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cadarnhau bod unigolyn sy’n byw yng Nghymru yn cadw draw o’r gwaith ac yn cyfyngu cysylltiad â phobl eraill o’i wirfodd am fod posibilrwydd eu bod wedi dod i gysylltiad â’r haint Ebola tra’n ymweld â Gorllewin Affrica.

Nid oes gan yr unigolyn symptomau o Ebola ac nid oes unrhyw achosion eraill o’r haint yng Nghymru, medd ICC.

Dywed ICC eu bod nhw wyliadwrus o’r posibilrwydd o achosion o Ebola yn y DU o ganlyniad i achosion o’r haint yn Sierra Leone, Liberia, a Guinea a’u bod nhw’n cadw llygad ar unrhyw salwch anesboniadwy ymhlith pobl sydd wedi teithio o’r ardal.

Mae nifer y rhai sydd wedi marw o Ebola yn Affrica bellach wedi cyrraedd 887.

Mae rhagor o wybodaeth am Ebola ar gael yma.