Guto Dafydd yn cael ei Goroni yn y Pafiliwn
Enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni yw Guto Dafydd o Bwllheli.

Cyflwynwyd y Goron iddo mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn, prynhawn ma.  Yn 24 oed, mae Guto’n un o’r beirdd ieuengaf erioed i ennill y Goron yn y Brifwyl.

Gyda 32 o feirdd wedi cystadlu yn y gystadleuaeth eleni, Golygfa Deg ddaeth i’r brig am ei ddilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun ‘Tyfu’.

Y beirniaid oedd Dylan Iorwerth, Marged Haycock, a Dafydd Pritchard.

‘Bardd meistrolgar’

Traddodwyd y feirniadaeth o lwyfan y Pafiliwn gan Dylan Iorwerth, ac wrth sôn am waith Golygfa Deg, dywedodd: “Canu am Gymru heddiw trwy sôn hefyd am Gymru ddoe. Ac yn y chwarae rhwng y ddau y mae gogoniant y cerddi.

“Mae yna sawl math o dyfu – geni babi i’r byd, twf neu ddiffyg twf cenedl, is-stori am dwf perthynas rhwng dau ac, ar y diwedd, awgrym y gallwn ni dyfu y tu hwnt i’n hargyfwng presennol.

“Cerddi heddiw ydyn nhw. Rhai am ddigwyddiadau eleni.  Ymhen blwyddyn neu ddwy mi fydd angen troednodiadau ac mi fydd rhai’n gweld hynny’n wendid. Ond dan ni’n beirniadu eleni. Ac mae Golygfa Deg yn gosod heddiw mewn ffordd iasol ar gefndir cannoedd o flynyddoedd o’n hanes ni.

“Meddyliwch am osod helyntion Radio Cymru ac asiantaeth EOS ochr yn ochr â’r hen gerdd am grogi’r telynor Sion Eos o dan gyfraith Lloegr.  Meddyliwch am roi stormydd Aberystwyth ochr yn ochr â’r gwynt a’r glaw ym marwnad Llywelyn ein Llyw Olaf, ffordd osgoi Porthmadog efo Dafydd Nanmor a’i hiraeth am ei gariad. Drama Blodeuwedd ac Atomfa Trawsfynydd – ein greddf ddireolaeth ni a grym rhannu’r atom.

“Wrth i’r pethau yna ddod ynghyd – ac oherwydd meistrolaeth dechnegol Golygfa Deg a’i hyder o wrth drin iaith a goslef – mae yna rywbeth llawer mwy’n digwydd. Ffrwydrad o ystyr a’r cryniadau’n parhau ymhell bell ar ôl gorffen darllen. Mi gawson ni ein codi o’n cadeiriau i dir uchel iawn gan fardd meistrolgar.

“Yn y diwedd, doedd y penderfyniad mawr ddim yn anodd o gwbl. Coron eleni ydi hi ac mae hi’n bendant iawn yn mynd i Golygfa Deg.”

Trydarwr brwd

Daw Guto Dafydd yn wreiddiol o Drefor, ond mae bellach yn byw ym Mhwllheli gyda Lisa’i wraig. Ar ôl mynd i Ysgol yr Eifl, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion-Dwyfor, graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Erbyn hyn, mae’n gweithio i Wasanaeth Ymchwil a Dadansoddeg Cyngor Gwynedd.

Bu’n cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd Sir Benfro 2013, a daeth yn agos at frig y gystadleuaeth hon yn Ninbych y llynedd.

Mae’n drydarwr brwd, yn aelod o dîm Talwrn y Tywysogion a thîm ymryson Caernarfon, ac yn mwynhau darllen, darlithio ac adolygu.

Cymaint yw ei awch dros drydaru, nes y gwnaeth ef (neu un o’i ffrindiau) hynny fel yr oedd yn paratoi i sefyll ar ei draed yn y Pafiliwn:

Mae’n un o golofnwyr y Glec, ac yn cyfrannu’n rheolaidd i Barn, Barddas, Tu Chwith a chyhoeddiadau eraill. Mae Jac, ei nofel dditectif  i bobl ifanc, newydd ddod o wasg y Lolfa, a chyhoeddir ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth gan Gyhoeddiadau Barddas yng ngwanwyn 2015.

Cyfweliad fideo â Guto Dafydd: