Sian Gwynedd
Mae’r BBC wedi cyhoeddi ei App Cymraeg cynta’ – a “hen bryd” meddai Pennaeth Darlledu Cymraeg y Gorfforaeth ei hun.
Wrth lansio App Cymru Fyw, fe ddywedodd Sian Gwynedd ei bod “yn bwysig nad ydi’r Gymraeg yn cael ei gadael ar ôl” yn y maes digidol.
Fe fyddai’r App yn golygu bod gwasanaeth Cymru Fyw ar gael ar ffonau symudol yn ogystal ag ar y We, gyda chynnwys y BBC ei hun a gwasanaethau eraill, fel golwg360.
Tri chwarter ar y We
Yn ôl yr ymchwil ddiweddara’, meddai, roedd traean o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio tabledi llechen, eu hanner ar Facebook a thri chwarter ar y We.
Roedd yr ymateb i farwolaeth y bardd Gerallt Lloyd Owen yn enghraifft o sut y gallai gwasanaethau Cymraeg ar y we ddenu cynulleidfa fawr, meddai Sian Gwynedd.
Fe gyhoeddodd hefyd y bydd gwasanaeth newyddion y BBC bellach ar wefan S4C a bod bwriad i ymestyn y cyfnod o wrando ar raglenni Radio Cymru ar y We i 30 niwrnod.