Mae gyrrwr a oedd yn feddw wrth olwyn ei gar ac a gyfaddefodd i ladd ei chwaer a’i dyweddi mewn damwain, wedi cael ei ddedfrydu i saith mlynedd o garchar.

Fe gafodd ei nai bychan, Harley, a oedd yn naw wythnos oed ar y pryd, ei adael yn amddifad wedi’r digwyddiad ym mis Mehefin eleni.

Fe blediodd Corey Davies, 20, yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, wedi i’w gar droi drosodd ar ffordd droellog yr A4093, ger pentre’ Gilfach Goch, Rhondda Cynon Taf, yn gynharach eleni.

Bu farw ei chwaer, Raquel Davies, 23, a’i bartner, Lee Jenkins, 25, yn syth.