“Cymry selog a fu’n ymgreinio o flaen Brenhines Lloegr yn ddiweddar” sy’n cael sylw Lol eleni, yn ôl y cyhoeddwyr.
Ar y clawr mae rhai o gogynau hitio arferol y cylchgrawn dychanol megis Meri Huws Comisiynydd y Gymraeg, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Guto Bebb y Torî, Carwyn Jones y Prif Weinidog ac Alun Davies y cyn-Weinidog Amaeth.
Hefyd ar y clawr mae’r Prifardd Ifor ap Glyn ac Efa Gruffudd Jones Prif Weithredwr yr Urdd – bu’r ddau i Balas Buckingham i weld Brenhines Lloegr.
Ac mae Tommo Radio Cymru , Cerys Matthews BBC Radio 6 ac April McMahon Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi eu cynnwys.