Mae ffermwr sy’n bwriadu gwerthu ei dir ar lethrau’r Wyddfa wedi dweud wrth golwg360 nad oes arian i’w wneud rhagor mewn ffermio defaid mynydd.
Dywedodd Dafydd Morris hefyd ei fod am roi cyfle i’r rhai sy’n beirniadu ffermwyr mynydd i reoli’r tir ei hunain.
Daeth i’r amlwg bod y bugail o Ddeiniolen yn paratoi i werthu hyd at 600 acer o’i dir ar ochr ogleddol y mynydd.
Mae’n bwriadu gwerthu un darn 112 acer, Cwm Arddu, mewn un rhan a gwerthu gweddill y tir fesul acer gyda phob acer yn mynd am £12,000.
Amcangyfrif y gallai’r gwerthiant godi dros £7 miliwn.
Yn siarad yn gyhoeddus am ei fwriad i werthu, a hynny am y tro cyntaf, dywedodd Dafydd Morris wrth golwg360: “Nid yw pobl yn hapus hefo sut mae’r tir yn cael ei edrych ar ei ôl y dyddiau yma, felly dyma gyfle iddyn nhw brynu rhan o’r mynydd eu hunain.
Ychwanegodd nad oes arian i’w wneud mewn ffermio defaid mynydd erbyn hyn.
Mae Dafydd Morris wedi gwrthod bod yn rhan o gynllun ‘Glastir’ Llywodraeth Cymru – cynllun sy’n gwobrwyo ffermwyr am ymrwymo i gymryd camau ychwanegol i warchod yr amgylchedd am bum mlynedd.
Roedd y cynllun wedi denu ymateb weddol gadarnhaol cyn ei gyflwyno ddwy flynedd yn ôl, ond yn ôl nifer o ffermwyr roedd y broses o ymuno yn golygu gormod o waith papur a llawer o ddryswch.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw am i’r cynllun ‘Glastir’ roi mwy o gymorth i ffermwyr sy’n byw ar dir uchel yn y dyfodol.
Gwneud arian
“Rhaid i mi feddwl sut mae neud pres,” meddai Dafydd Morris. “Does dim pres mewn ffermio.”
Ond er ei fod yn wynebu’r posibilrwydd o wneud £7 miliwn trwy werthu, nid yw’r bugail i’w weld wedi cyffroi:
“Os eith o, mi eith o. Os ddim, fydd hynny’n poeni dim arna’ i,” meddai Dafydd Morris.
Bydd y tir yn mynd ar werth yn swyddogol ddydd Llun.