Y diweddaraf gan golwg360 o’r Cymry sydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow heddiw.

*Efydd i’r bocswyr Sean McGoldrick a Nathan Thorley

*Efydd gymnasteg i Georgie Hockenhull

*Efydd i Price, Cordina a Williams yn y sgwâr bocsio

22:45: Cyfrif Twitter Athletau Cymru newydd gyhoeddi tro pedol yn y penderfyniad i ddiarddel tîm 4 x 100m merched Cymru, ac y byddan nhw’n rhedeg yn y ffeinal fory. Newyddion da iawn!

21:14: Merched Cymru newydd orffen yn bedwerydd yn rownd gynderfynol y 4 x 100m, ond yna’r newyddion yn cyrraedd eu bod wedi eu diarddel am fethu â throsglwyddo’r baton yn gywir.

21:00: Tipyn wedi bod yn digwydd yn yr athletau heno. Mae Chris Gowel trwodd yn y 1500m ar ôl gorffen yn bedwerydd yn ei ragras. Pumed safle parchus i’r Cymro Paul Walker yn y naid ffon, gydag uchder o 5.35m. Roedd dau Gymro yn y ras 10,000m gydag Adam Bitchell o Aberystwyth yn gorffen yn 15fed (28:47.94), a Dewi Griffiths o Gaerfyrddin yn gorffen yn 25ain (31:28.81).

Cadarnhad o dair medal efydd yn y bocsio i Gymru heno, gyda Lauren Price yn colli 2-1 yn y gystadleuaeth 75kg i ferched; Ashley Williams yn y categori 49kg i ddynion; a Joseph Cordina yn y gystadleuaeth 60kg. Mae cyfanswm medalau Cymru bellach wedi cyrraedd 34.

17.10: Canlyniad yn y gymnasteg llawr unigol, ac mae Jessica Hogg wedi gorffen yn bumed yn y ffeinal gyda sgôr digon parchus o 13.166.

Doedd hynny’n anffodus ddim yn ddigon i gipio medal, gydag Ellie Black o Canada yn sicrhau trydydd gyda sgôr o 13.666. Claudia Fragapane o Loegr oedd yn fuddugol, gyda Lauren Mitchell o Awstralia’n ail.

Fe fyddwn ni nôl yn nes ymlaen heno gyda chanlyniadau’r bocsio ac athletau, gan obeithio gweld rhai o’r bocswyr yn cyrraedd yr ornest fedal aur.

16.29: Felly tair medal efydd i’w ychwanegu at gyfanswm swyddogol Cymru, sydd bellach fyny i 31.

Dyw hynny ddim yn cynnwys y medalau y bydd y bocswyr Lauren Price, Joe Cordina ac Ashley Williams yn eu hennill, a hynny am eu bod nhw i gyd yn ymladd yn eu rowndiau cynderfynol heno.

Os collwn nhw, yna efydd fydd hi yn union fel Sean McGoldrick a Nathan Thorley heddiw. Os enillwn nhw, yna fe gawn nhw ornest i geisio cipio medal aur yfory.

Fe fydd hynny i gyd i ddod ar ôl 7.00yh heno. Cyn hynny, mae Jessica Hogg ar fin dechrau ei ffeinal llawr unigol yn y gymnasteg artistig, a nes ymlaen fe fydd Paul Walker yn neidio yn ffeinal naid ffon y dynion.

Mae gan Chris Gowell ragbrawf 1500m, bydd Daniel Font ac Ollie Gwilt yn herio Lloegr yn rownd wyth olaf y parau badminton, ac fe fydd dynion hoci Cymru’n herio Trinidad a Tobago am y nawfed safle.

15.31: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Trydydd medal efydd y dydd i Gymru, y tro hwn yn y gymasnteg unigol i ferched ar y trawst! Georgie Hockenhull sy’n cipio’r trydydd safle gyda sgôr o 13.466, 0.2 y tu ôl i Mary-Anne Monckton o Awstralia ond ymhell y tu ôl i’r enillydd Ellie Black o Ganada gafodd sgôr o 14.900.

Roedd Lizzie Beddoe hefyd yn agos, gan orffen yn bedwerydd jyst y tu ôl i Hockenhull gyda sgôr o 13.366.

15.27: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Ail golled focsio Cymru yn y rownd gynderfynol heddiw, sy’n golygu mai Nathan Thorley sydd yn cael y fedal efydd yn y bocsio 81kg.

15.04: Colled i Gymru hefyd yn y sboncen, wrth i David Evans a Peter Creed gael eu trechu 0-2 (9-11, 4-11) gan y pâr o Loegr ym mharau’r dynion.

Y canlyniad nesaf i ddod fydd gornest focsio Nathan Thorley, wrth iddo ef obeithio i fynd un yn well na McGoldrick ac ennill ei ornest gynderfynol ef yn erbyn Kennedy St Pierre o Mauritius.

14.58: MEDAL EFYDD I GYMRU!

Medal i Gymru, felly, ond nid yr un oedd Sean McGoldrick eisiau, wrth iddo golli yn rownd derfynol y bocsio 56kg i Michael Conlan o Ogledd Iwerddon.

13.30: Bore digon tawel oedd hi heddiw i’r Cymry, ond mae yna rywfaint mwy o gystadlu’n digwydd y prynhawn yma.

Cyn pump o’r gloch fe fydd Sean McGoldrick a Nathan Thornley’n ymladd eu gornestau bocsio rownd cynderfynol nhw. Maen nhw eisoes wedi sicrhau medal efydd, ond byddai buddugoliaethau’n golygu eu bod nhw drwyddo i’r ornest ar gyfer y fedal aur.

Mae cystadlaethau medala unigol llawr a thrawst y gymnasteg artistig i ferched hefyd yn diwgydd y prynhawn yma.

Bydd Lizzie Beddoe a Georgie Hockenhull yn cystadlu ar y trawst, tra bod Jessica Hogg yn ffeinal y llawr.

Mae yna hefyd ornest yn rownd wyth olaf y parau sboncen, gyda David Evans a Peter Creed eisoes wedi dechrau’u gêm nhw yn erbyn y pâr o Loegr.

11.17: Un canlyniad arall i chi’r bore yma, sef bod merched Cymru wedi colli 36-58 i Ogledd Iwerddon yn y pêl-rwyd yn y gêm i benderfynu’r seithfed ac wythfed safle.

Siom i orffen yn eu cystadleuaeth nhw, felly, ond o gofio mai wythfed yw Cymru yn netholiadau’r byd efallai nad yw’n fawr o syndod.

10.58: Dyw hi ddim yn fore prysur iawn i’r Cymry heddiw, ond mae yna ambell i ganlyniad wedi cyrraedd eisoes yn y tenis bwrdd.

Yng nghystadleuaeth parau’r merched mae Charlotte Carey a Naomi Owen wedi colli’u gêm yn y drydedd rownd 0-3 (9-11, 4-11, 7-11), i bâr o Singapore, tra bod Angharad Phillips a Chloe Ann Thomas hefyd wedi colli 0-3 (10-12, 5-11, 8-11) i bâr o’r un wlad.

Dim lwc i Ryan Jenkins yn senglau’r dynion chwaith, wrth iddo golli 0-4 (10-12, 9-11, 10-12, 7-11) i Paul Drinkhall o Loegr.

10.31: Bore da, a chroeso i flog byw golwg360 o Gemau’r Gymanwlad heddiw. Diwrnod digon tawel o ran y medalau gafwyd ddoe, gydag un medal efydd yn unig yn cael ei hychwanegu at y casgliad gan Geraint Thomas yn nhreialon amser y ras feicio.

Doedd y Cymry eraill a gystadlodd am fedalau gan gynnwys Elinor Barker, Brett Morse, Clinton Purnell, a thriawd bowlio lawnt y merched yn anffodus ddim cweit digon agos yn eu cystadlaethau nhw.

Fodd bynnag, mae cyfanswm medalau swyddogol Cymru bellach fyny i 28 – pedair aur, deg arian a 14 efydd – gyda rhagor i ddod unwaith yn y bocsio.