Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau Lyn Jones yn parhau gyda’r gwaith o gryfhau ei garfan drwy arwyddo prop pen tynn anferth a phrofiadol o Dde Affrica.

Cafodd Juan ‘Brok’ Harris gytundeb i chwarae i’r rhanbarth am y tri thymor nesaf.

Gall y prop anferthol chew troedfedd a 18 stôn chwarae yn safle’r prop pen rhydd hefyd, ac mae’r blaenwr 29 oed wedi newydd chwarae ei ganfed gêm i Western Provine yn y Curry Cup.

Gobaith Lyn Jones yw y bydd y prop profiadol yn cryfhau elfen o chwarae’r Dreigiau ymysg y blaenwyr oedd yn wendid y tymor diwetha’.

“Bydd Brok yn cynnig yr arbenigedd a’r profiad sydd ei angen arnon ni i helpu ein props ifanc i aeddfedu a blodeuo’n chwaraewyr rhyngwladol i Gymru yn y dyfodol,” meddai’r Cyfarwyddwr Rygbi.