Brok Harris ar y ffordd i Rodney Parade
Mae’r Dreigiau wedi arwyddo’r prop Juan ‘Brok’ Harris wrth i’r cyfarwyddwr rygbi, Lyn Jones, barhau i gryfhau ei garfan.

Mae’r chwaraewr 29 mlwydd oed  o Dde Affrica wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda’r rhanbarth.

Mae’r prop wedi chwarae 90 o weithiau i’r tim Super Rugby, y Stormers.

“Yn dilyn cyfnod anodd y tymor diwethaf mewn rhannau tynnach y gêm, rydym wedi bod yn benderfynol na fydd hynny’n digwydd eto,” meddai Lyn Jones.

“Bydd Brok yn cynnig yr arbenigedd a’r profiad sydd ei angen ar bropiau ifanc Gwent i fod yn chwaraewyr rhyngwladol Cymru’r dyfodol.”