Mae iaith y gwefannau'n dylanwadu, meddai'r adroddiad
Mae angen gwneud rhagor i annog pobol i ddefnyddio’r Gymraeg ar wefannau cymdeithasol, yn ôl adroddiad newydd.
Mae chwarter siaradwyr Cymraeg rheolaidd yn fwy tebyg o ddefnyddio Saesneg ar wefannau fel twitter a Facebook, meddai’r ymchwil gan Fentrau Iaith Cymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar gwmnïau mawr fel twitter, Linked-In ac Instagram i ddilyn esiampl Facebook a chynnig y dewis i gael eu safleoedd yn Gymraeg.
Yn ôl yr ymchwil, roedd 65% o’r atebwyr yn dweud bod iaith y safle ei hun yn dylanwadu ar eu defnydd o iaith.
‘Angen cynnal momentwm’
“Mae’n glir bod angen cynnal y momentwm a chymell mwy o bobol ar draws y wlad a thu hwnt i gyfrannu yn Gymraeg fel rhan o’r byd digdol,” meddai Emily Cole o Fentrau Iaith Cymru.
“Os nad ydyn nhw’n hyderus, mae’n rhy hawdd i siaradwyr Cymraeg gyfathrebu’n Saesneg ar safleoedd cymdeithasol, ac mae’n debyg bod cyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg yn gwneud hynny.”
Roedd ffactorau eraill yn cynnwys ystyried beth yw iaith ffrindiau a dilynwyr a dylanwad cyffredinol yr iaith Saesneg.
Symbylu
Ond, yn ôl noddwyr y gwaith ymchwil, cwmni BT, mae yna arwyddion gobeithiol hefyd gan y byddai 95% o’r atebwyr yn hoffi defnyddio rhagor o Gymraeg.
“Yr her wirioneddol o’n blaenau yw symbylu cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol ar-lein,” meddai Cyfarwyddwr Cymru BT, Ann Beynon.