Arthur Jones
Mae fideo wedi cael ei gyhoeddi ar y we fel rhan o’r ymgyrch chwilio am ddyn 73 mlwydd oed o Ddinbych aeth ar goll yng ngwlad Groeg.

Does neb wedi gweld Arthur Jones ers 19 Mehefin, ddeuddydd wedi iddo gyrraedd ar yr ynys Creta ar ei wyliau.

Mae’r chwilio amdano wedi canolbwyntio ar yr ardal rhwng ei westy a mynwent Ail Ryfel Byd ble roedd y cerddwr brwd wedi llofnodi llyfr ymwelwyr.

Dros y penwythnos, adroddwyd bod chwe dyn o Ddinbych wedi mynd i ynys Creta i chwilio amdano.

Fideo

Mae’r fideo sydd wedi cael ei ryddhau yn dangos y Prif Weinidog yn ymateb i gwestiwn gan Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ei ymateb, mae David Cameron yn dweud y bydd o’n gwneud unrhyw beth y gall o’i wneud i helpu gyda’r chwilio am Arthur.

Mae’r fideo yn groffen gyda delweddau o bobl yn dal arwyddion gyda “#CameronPromised” arnyn nhw ac yn honni bod ffrindiau a theulu Arthur Jones yn dal i ddisgwyl am yr help a addawyd.

Llythyr

Ddoe fe wnaeth ymgyrchwyr gyflwyno llythyr i’r Prif Weinidog yn galw am help.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod eisoes yn rhoi cymorth consylaidd i’r teulu.

http://www.youtube.com/watch?v=7BXQnHxBkVM