Mae dyn gafwyd yn euog o ddynladdiad babi ei gariad wedi’i garcharu am naw mlynedd.

Roedd Alfie Sullock wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cael ei daro gyda gwadn esgid a photel blastig.

Daeth y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd i’r canlyniad ddoe bod Michael John Pearce, 33, yn ddieuog o lofruddiaeth, ond yn euog o ddynladdiad.

Ar 16 Awst y llynedd, roedd Michael John Pearce wedi bod yn gwarchod Alfie yn ei gartref yn Nelson, Sir Gaerffili, tra bod ei bartner, a mam y babi, Donna Sullock, wedi mynd allan ar ei noson gyntaf allan ers rhoi genedigaeth.

Y cefndir

Roedd y cwpl wedi cyfarfod pan oedd Donna Sullock chwe mis yn feichiog.

Ychydig funudau cyn iddo ffonio 999, roedd Michael John Pearce wedi anfon neges destun at Donna Sullock yn dweud bod ei mab yn ei iawn ac y gallai ymddiried ynddo.

Pan gyrhaeddodd y parafeddygon gartref Pearce yn Nelson, Sir Gaerffili, daethant o hyd i Alfie yn oer, difywyd a glas. Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn yr ysbyty.

Yn ystod yr achos tair wythnos o hyd, dywedodd Pearce oedd ganddo unrhyw syniad beth ddigwyddodd i Alfie.

Yn gynharach yn yr achos, dywedodd yr erlynydd Michael Mather-Lees wrth Pearce bod rhaid ei fod o’n gwybod beth oedd wedi digwyddodd i Alfie.

Wrth siarad tu allan i’r llys ddoe, dywedodd Donna Sullock ei bod hi’n “siomedig” gyda’r dyfarniad ond yn “fodlon” y bydd Michael John Pearce yn mynd i’r carchar am beth oedd o wedi ei wneud.