A all y dynion hyn helpu? (Llun: Heddlu Trafnidiaeth Prydain)
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn chwilio am grwp o ddynion mewn cysylltiad a sylwadau anweddus gafodd eu gwneud wrth ferch 15 oed ar un o drenau de Cymru.

Mae’r llu wedi rhyddhau delweddau teledu cylch cyfyng o ddynion y maen nhw’n credu allai fod o help i’r ymchwiliad sydd ar y gweill.

Roedd y ferch 15 oed yn teithio o Westbury i Gasnewydd pan ddaeth dyn ati a dechrau sgwrsio. Wrth i’r tren agosau at Gasnewydd, fe wnaeth y dyn nifer o sylwadau anweddus, gan ypsetio’r ferch.

“Roedd yn brofiad anghynnes ac annifyr i’r ddioddefwraig ifanc,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Trafnidiaeth Prydain, “yn arbennig gan fod ganddi anableddau dysgu a’i bod yn epileptig.”

Fe ddigwyddodd hyn i gyd rhwng 5.20yp a 5.50yp ddydd Gwener, Mai 16, ac mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sy’n adnabod un o’r dynion yn y lluniau CCTV, neu’r dynion eu hunain, i gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar y rhif 0800 40 50 40, neu trwy anfon neges destun i 61016.