Mae un dyn a dwy fenyw wedi cael eu cyhuddo, yn dilyn ymosodiad yn Aberdâr nos Wener ddiwetha’ pryd y cafodd bachgen 15 oed anafiadau difrifol i’w ben.
Mae Daniel Carter, 25, o Ferndale; Danielle Louise Parker, 25, hefyd o Ferndale; a Sophie Enoch, 22, o Aberdâr, oll wedi cael eu cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad.
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 11yh nos Wener gan aelod o’r cyhoedd, yn dweud fod ymosodiad wedi bod y tu allan i dafarn y Cambrian Inn.
Fe gafodd y bachgen ei gludo’n wreiddiol i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, cyn cael ei drosglwyddo wedyn i Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd. Yno, fe gafodd lawdriniaeth ar anaf difrifol i’w ben, ac mae’n parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae’r tri sydd wedi’u cyhuddo wedi cael eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr heddiw.