Mae dau o bobol eraill wedi’u harestio fel rhan o’r ymchwiliad i ymosodiad difrifol ar fachgen 15 oed yn Aberdâr dydd Gwener.

Mae nifer y bobol sydd wedi’u harestio bellach yn dri.

Fe gafodd dynes 22 oed a dyn 25 oed eu harestio ddoe, ac maen nhw’n dal i gael eu holi gan dditectifs. Roedd dynes arall 25 oed wedi’i chludo i’r ddalfa yn ystod oriau mân fore Sul, ac mae hithau’n dal i gael ei holi.

Yn y cyfamser, mae’r bachgen yn dal i fod yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, gydag anafiadau difrifol i’w ben.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am yr ymosodiad gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.