Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gobeithio y bydd dedfryd o garchar i werthwr cyffuriau yn anfon neges glir i bobol eraill allai gael eu temtio i wneud yr un fath.

Ddydd Gwener diwetha’, fe blediodd Michael Alan Clark O’Shaughnessy o Lerpwl yn euog yn Llys y Goron Caernarfon i fod â heroin a chocên yn ei feddiant, gyda’r bwriad o’u gwerthu yng ngogledd Cymru a Sir Fôn.

Fe gafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd dan glo.

“Rydw i’n falch iawn fod dedfryd o garchar wedi ei chyflwyno,” meddai’r PC Mark Lee.

“Fe ddaeth y dyn hwn â chyffuriau a lot fawr o wae i’n cymunedau, gan iddo dargedu pobol fregus.

“Gobeithio y bydd y ddedfryd yn dangos i bobol pa mor ddifrifol yr ydan ni’n ystyried troseddau o’r math hwn. Gobeithio y bydd pobol yn gweld fod hyn yn annerbyniol, a’n bod ni’n fodlon gwneud pob dim fedrwn ni er mwyn gwarchod ein cymunedau.