Jim Griffiths
Mae awdur cofiant newydd i un o “wleidyddion Cymraeg bwysicaf ail hanner yr ugeinfed ganrif” wedi galw am godi cofgolofn iddo yn y brifddinas.

Yr wythnos hon, mae bywgraffiad Jim Griffiths, Arwr Glew y Werin, yn cael ei gyhoeddi. Cafodd ei eni yn Rhydaman ac roedd Jim Griffiths yn Aelod Seneddol dros Lanelli. Ef oedd Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru rhwng 1964 a 1966 pan wnaeth o sefydlu’r Swyddfa Gymreig. Ef hefyd oedd brawd y bardd Amanwy, a bu farw yn 1975.

Mae awdur y gyfrol, D Ben Rees, wedi dweud y “dylid cael cofgolofn iddo yn y brifddinas yng Nghaerdydd.”

“Aeth blynyddoedd heibio ers hynny a hyd y gwn i, nid yw ein harweinwyr cyfoes yn trafod hyn,” meddai D Ben Rees, “ond gallwn ddweud yn ddibetrus fod ein dyled bennaf am y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd i Jim Griffiths.

“Ni fyddai Cymru heddiw yr hyn ydyw heb ei gyfraniad gwerthfawr i’n bywyd fel cenedl.”

Bydd y Parchedig D. Ben Rees yn cynnal sesiwn ar ‘Y Ddau Frawd Diwylliedig: Amanwy a Jim Griffiths’ am 12.45, dydd Iau, 7 Awst yn y Babell Lên, Eisteddfod Genedlaethol Llanelli. Mae Arwr Glew y Werin wedi ei gyhoeddi gan wasg Y Lolfa.