Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyfle i ymwelwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddod draw i fynegi eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel.
Fel rhan o ymgyrch ‘Eich Dewis Chi’ y sianel fe fydd cyfle i bobl ymweld â phafiliwn S4C i leisio’u barn ar y cynnwys sydd ar gael, o ddydd Mercher 6 Awst i ddydd Gwener 8 Awst ar y Maes.
Mae’r ymgyrch hefyd yn pwysleisio gallu’r gwylwyr i wylio rhaglenni ar nifer o wahanol blatfformau, o’r teledu traddodiadol i wasanaethau ar lein ac ar alw ar bob math o declynnau.
Nod arall y sianel fydd ceisio annog y rhai sydd ddim yn wylwyr cyson, a’r rhai sydd ddim yn gwylio, cael cip ar y gwasanaethau sydd gan S4C i’w cynnig.
Yng nghanol bywyd
“Mae bod yng nghanol bywydau bob dydd pobl Cymru yn rhan hanfodol o weledigaeth S4C,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.
“Bydd ein hymgyrch newydd ‘Eich Dewis Chi’ yn mynd â ni at ein gwylwyr yn eu cymunedau a hefyd yn dod â ni wyneb-yn-wyneb â rheini sydd ddim yn gwylio S4C ar hyn o bryd, neu sydd ddim yn wylwyr cyson.
“Mae’n holl bwysig ein bod ni’n gwrando ac yn siarad gyda’n cynulleidfa a chyda’r cyhoedd yng Nghymru yn gyffredinol. Ry’ ni am godi ymwybyddiaeth o faint o gyfleoedd sydd i weld ein rhaglenni sy’n cael eu canmol yn gyson am fod o safon uchel.
“Mae S4C ar gael i’w gwylio yn fyw ar draws sawl platfform erbyn hyn ac mae ein rhaglenni i’w gweld ar-lein ac ar alw hefyd drwy nifer o wahanol gyfryngau. Mae gennym amrywiaeth eang o raglenni – rhywbeth at ddant pawb – a llawer o gyfresi a rhaglenni newydd ar gyfer yr hydref. Mae gennym hefyd nifer o wasanaethau hygyrchedd a gwasanaethau digidol.
“Felly, mae’n amser i gymryd golwg ffres ar S4C ac er mwyn annog pobl i wneud hynny byddwn yn ymweld â nhw yn eu hardaloedd ac mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol yn y misoedd nesaf. Dewch heibio am sgwrs.”
Wynebau
Yn ogystal â rhoi cyfle i’r cyhoedd fynegi eu barn ar faes yr Eisteddfod am raglenni a gwasanaethau S4C, bydd cyfle i gwrdd â rhai o wynebau cyfarwydd y sianel, ac fe fydd gweithgareddau a sioeau plant cyfarwydd Cyw, Stwnsh, TAG ac Ysbyty Hospital hefyd i’w gweld.
Yn ogystal â hynny fe fydd cyfle i holi’r darlledwr o Langennech, Huw Edwards, a bydd Gruff Rhys yn cyflwyno ei sioe sleidiau a cherddoriaeth am yr American Interior.