Meinir Jones (Llun: S4C)
Ar ddiwrnod olaf y Sioe Fawr yn Llanelwedd, cafodd un o gyflwynwyr cyfres Ffermio, Meinir Jones, ei hanrhydeddu â Gwobr Goffa Bob Davies gan Undeb Amaethwyr Cymru.
Cyflwynwyd y wobr, sef ffon fugail wedi ei cherfio yn arbennig gan wneuthurwr ffyn o Aberystwyth, Hywel Evans, gan Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, a hynny am waith Meinir Jones fel personoliaeth yn y cyfryngau sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.
Mae’r wobr flynyddol yn cael ei rhoi er cof am Bob Davies o’r Trallwng, gohebydd Cymreig y Farmers’ Weekly, fu farw ym mis Tachwedd 2009.
Cafodd y gyflwynwraig ei henwebu gan ffermwyr o Sir Benfro ar gyfer y wobr, a hynny am ei heitem ar Ffermio am effaith TB mewn gwartheg a pholisi dileu cyfredol Llywodraeth Cymru.
“Roedd derbyn y wobr yma yn brofiad arbennig ac rydw i yn hynod o ddiolchgar i bawb wnaeth fy enwebu ac i Undeb Amaethwyr Cymru,” meddai Meinir Jones, a gafodd ei magu ar Fferm Maesteilo yng Nghapel Isaac, Sir Gaerfyrddin.
“Dw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle i wneud y swydd dwi ynddi yn cyflwyno ar Ffermio. Mae’n fraint ac anrhydedd cael teithio o amgylch Cymru a thu hwnt yn cwrdd â phobl mor frwdfrydig ac angerddol dros y diwydiant a chefn gwlad yn gyffredinol.
“Mae ymroddiad y ffermwyr yn amlwg iawn, yn rhoi cant a chant i sicrhau bwyd o’r safon gorau ar y plât. Dwi’n ymfalchïo yn y ffaith fy mod yn amaethwraig fy hun, ac wrth fy modd cael cyfuno’r diddordeb hwnnw gyda fy ngwaith o ddydd i ddydd.”
Bydd cyfres Ffermio yn dychwelyd i’r sgrin ym mis Medi.