Mae Heddlu De Cymru yn “edrych eto” ar be’n union aeth o’i le yn ystod protest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, er mwyn ceisio adnabod sut y trodd pethau’n dreisgar ac yn flêr.
Mae’r heddlu hefyd wedi cael ei feirniadu gan bobol oedd yn y brifddinas er mwyn gwrthdystio yn erbyn y trais yn Gaza, am ymateb yn “wael” i’r digwyddiad a welodd tua 1,500 o bobol yn gorymdeithio.
“R’yn ni’n cydnabod fod hwn yn ddigwyddiad treisgar a dychrynllyd,” meddai’r Prif Arolygydd Dan Howe. “Ond, wedi dweud hynny, un digwyddiad oedd e, a dyw e ddim yn gynrychioladol o’r holl ddigwyddiad.
“Fe gynhaliwyd protest yr wythnos ddiwetha’ hefyd, ar raddfa lai, a fu yna ddim trais o gwbwl. Ond roedd digwyddiad dydd Sadwrn ar raddfa dipyn mwy, ac roedd e hefyd yn cyd-daro gyda phrynhawn prydur yn y ddinas.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i’r digwyddiad, er mwyn dod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol am y trais, a hefyd i weld a oedd yna rywbeth y gallai’r plismyn fod wedi gwneud yn wahanol.