Ed Milliband AS (Llun: Rhaglen Andrew Marr)
Mae Ed Milliband wedi dweud y bydd yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ei holi’n rheolaidd os y caiff ei ethol yn Brif Weinidog y flwyddyn nesaf.
Mae’n credu y bydd cynnig y cyfle yn help i geisio cael dinasyddion i gymeryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Wrth gael ei holi ar Raglen Andrew Marr ar y BBC, dywedodd ei fod yn bwriadu cynnig argymhellion i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin er mwyn newid sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn dilyn cryn feirniadaeth o’r drefn fel ag y mae hi.
“Dwi’n credu ein bod ni angen sicrhau amser holi i’r cyhoedd ble bydd y Prif Weinidoog yn cynnig ei hun i gael ei holi ym Mhalas Westminster,” meddai.
Doedd o ddim am fanylu pa mor rheolaidd y buasai’r cyhoedd yn cael y cyfle beth bynnag.
Dywedodd bod yna gagendor heddiw rhwng y math o wleidyddiaeth y mae pobl ei eisiau a’r hyn y mae Cwestiynau’r Prif Weinidog yn ei gynnig.
Fe wnaeth Ed Milliband hefyd ganmol Nick Clegg am ei benderfyniad i gael ei holi’n wythnosol ar y radio gan ddweud ei fod yn bwriadu gwneud rhagor o’r un peth ei hun yn y dyfodol.