Y 'Costa Concordia' ar y creigiau (Llun llyfrgell)
Mae’r llong bleser Costa Concordia, aeth ar y creigiau oddi ar arfodir Tyscani yn 2012 gan ladd 32 o bobl, wedi cyrraedd porthladd Genoa.

Bydd y llong yn cael ei sgrapio yno ar ôl taith pum niwrnod o Giglio ble aeth ar y crieigau ym mis Ionawr ddwy flynedd yn ôl.

Dechreuodd y gwaith o’i chodi o’r dwr ym mis Medi llynedd.

Mae’r capten yn wynebu achos llys ar sawl cyhuddiad o ddynladdiad, achosi’r llongddrylliad a mynd oddi ar fwrdd y llong cyn i bob un o’r teithiwr a’r criw adael.

Mae Francesco Schettino yn honi nad oedd y creigiau ar siartiau morwrol y llong.