Roedd Margaret Thatcher yn gwybod am yr honiadau medd cyn blismon (Llun: Sefydliad Margaret Thatcher)
Mae cyn uwch swyddog efo’r heddlu wedi dweud ei fod wedi rhybuddio Margaret Thatcher am honiadau bod un o’i phrif gynghorwyr yn cynnal partion rhyw efo bechgyn dan oed.
Roedd Barry Strevens yn warchodwr personol i Margaret Thatcher am gyfnod pan oedd yn Dditectif Brif Arolygydd.
Dywedodd ei fod wedi clywed sibrydion gan blismon yng Nghaer bod Sir Peter Morrison berchen tŷ yno ble roedd partion rhyw efo bechgyn dan oed yn cael eu cynnal.
Yn ôl Mr Strevens, aeth yn syth at Archie Hamilton, ysgrifennydd preifat y Farnwes Thatcher i adrodd yr honiadau.
Mae Mr Hamilton yn dweud ei fod yn cofio Mr Strevens yn dod i 10 Downing Street ond dywedodd nad oedd yn cofio unrhyw sôn am fechgyn dan oed.
Er gwaethaf hyn fe wnaeth y Farwnes Thatcher benodi Sir Peter Morrison yn ddirprwy gadeirydd y Blaid Geidwadol.
Roedd Sir Peter Morrison yn aelod seneddol Caer am gyfnod a bu farw yn 1995 yn 51 oed.
Mae ei enw wedi cael ei gysylltu yn ddiweddar efo honiadau o gamdrin bechgyn mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.
Mae ymchwiliad llawn i honiadau o bedoffilia yn San Steffan eisoes ar y gweill.