Stephen Crabb AS, Ysgrifenydd Cymru
Mae trafodaethau ar y gweill i sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar gyfer datganoli rhagor o bwerau o San Steffan “i’r oll o’r Deyrnas Unedig” yn ôl Ysgrifenydd Cymru, Stephen Crabb.
Mewn cyfweliad efo’r ‘Scotland on Sunday’ dywedodd bod y cynllun yn un o’r pynciau drafodwyd rhwng David Cameron a Carwyn Jones yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf.
Ychwanegodd bod y cynllun yn arwyddocaol am fod y prif bleidiau yn San Steffan am ystyried datganoli rhagor o bwerau i Gymru a’r Alban ac ystyried sut i ddatganoli cyfrifoldebau i’r rhanbarthau yn Lloegr.
Dywedodd Stephen Crabb mai syniad Carwyn Jones oedd sefydlu’r confesiwn cyfansoddiadol, bod cyfrifoldebau cyllidol “yn uchel ar yr agenda” a’i fod ef ei hun yn “fodlon” efo datganoli treth incwm.
Ychwanegodd ei fod “yn gyfforddus” efo’r modd y mae datganoli yn datblygu er ei fod wedi bod yn ei erbyn yn wreiddiol.