Un poster o'r casgliad
Mae perchennog y casgliad mwyaf o eitemau sy’n coffau’r degawdau o drafferthion yng Ngogledd Iwerddon yn bwriadu cyflwyno’r casgliad ‘am ddim i gartref da.’
Mae Peter Moloney, 63 oed ac yn fab i Wyddelod symudodd i Loegr.
Mae bellach yn bensaer yn Llundain ond wedi dweud y buasai’n falch o weld y casgliad yn cael ei arddangos i’r cyhoedd yn Iwerddon.
Mae nifer helaeth o’r casgliad yn ysgytwol.
“Bydd hanner y gymuned yn casau rhai darnau a’r hanner arall yn casau’r gweddill. Bydd rhai yn cael sioc ac eraill yn crio wrth eu gweld,” meddai “ond mae’n rhaid i ni wynebu’n gorffennol a gwneud siwr na fydd yn digwydd eto.”
“Mi f’aswn i’n falch ‘tae’r casgliad yn fodd o hybu heddwch a chymodi,” ychwanegodd.