Rhys Williams - allan o Gemau Glasgow
Mae corff Athletau Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal adolygiad mewnol ar ôl i’r ail athletwr o fewn wythnos gael ei ddiarddel o dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae Tîm Cymru wedi cadarnhau na fydd Rhys Williams yn rhedeg ras 400m dros y clwydi yng Nglasgow wedi iddo fethu prawf cyffuriau.

Daw hyn wythnos yn unig ar ôl i un o athletwyr eraill y tîm, y rhedwr 800m Gareth Warburton, orfod tynnu’n ôl o’r gystadleuaeth. Roedd yntau wedi methu prawf cyffuriau hefyd.

Mae Rhys Williams a Gareth Warburton wedi mynnu nad ydyn nhw erioed wedi erioed wedi cymryd cyffuriau yn fwriadol.

Fodd bynnag, mae Athletau Cymru wedi dweud ei fod yn “bryderus” bod ail aelod o’r tîm wedi cael ei gyhuddo o gymryd cyffuriau.

Dywedodd y corff mewn datganiad: “Mae gan Rhys y cyfle i ymateb i’r cyhuddiadau yn ei erbyn mewn gwrandawiad llawn gerbron y panel gwrthgyffuriau cenedlaethol.

“Mae Athletau Cymru yn amlwg yn bryderus mai hwn yw’r ail waith i athletwr rhyngwladol Cymru gael ei gyhuddo o gymryd cyffuriau a bydd yn cynnal ei adolygiad mewnol ei hun.”