Bydd drama Gymraeg yn cael ei pherfformio yng Ngŵyl Fringe Caeredin eleni, yr ŵyl gelfyddydau fwyaf yn y byd.

Yn dilyn canmoliaeth o’i thaith genedlaethol yn 2013, mae Cwmni’r Frân Wen yn paratoi i fynd a drama Dim Diolch i’r Alban am wythnos o berfformiadau ym mis Awst.

Mae’r cynhyrchiad Gymraeg yn dilyn stori ryfeddol bywyd George Price, y gwyddonydd Americanaidd hunanddysgedig a oedd y cyntaf i fynegi anhunanoldeb mewn hafaliad mathemategol. Sawl blynedd cyn iddo gyflwyno ei hafaliad, roedd George Price wedi gwneud nifer o gyfraniadau neilltuol ym maes bioleg esblygiad, maes na chafodd unrhyw hyfforddiant ynddo.

Yn Llundain yn y 1970au, ychydig fisoedd ar ôl iddo gyflwyno ei hafaliad, rhoddodd George Price y gorau i’w yrfa er mwyn rhoi lloches a chysur i alcoholigion digartref ac, yn y pen draw, fe syrthiodd i fagl ei theorïau ei hun. Ac yntau’n 52 oed, wedi’i yrru’n wallgof gan oblygiadau ei waith ymchwil ei hun, fe’i lladdodd ei hun, gan ei drywanu ei hun yn ei wddf.

Sêr ifanc

Seren y ddrama newydd yw Carwyn Jones, actor a aned yn Llanfairpwll. Cynhyrchir y ddrama gan Cwmni’r Frân Wen o Borthaethwy, ac mae hefyd yn cynnwys Martin Thomas o Gaernarfon a Ceri Elen o Hen Golwyn.

Ysgrifennwyd Dim Diolch gan Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen, ac fe’i cyfarwyddir gan Ffion Haf.

“Yn y ddrama,” meddai Iola Ynyr, “rydym ni’n ymgodymu â theori a meddyliau George a fydd yn ein gwahodd ni i gyd i archwilio ein dealltwriaeth ein hunain o weithredoedd o garedigrwydd yn y cyfnod anodd hwn. Beth sy’n ein rheoli ni – ein genynnau neu ein hewyllys rydd?”