Mae mudiad rhieni wedi galw ar Gyngor Dinas Casnewydd i ohirio cynnydd i gostau cludiant ôl-16 tan fod asesiad effaith llawn ac ymgynghoriad cynhwysfawr wedi’i gynnal gyda disgyblion, rhieni ac ysgolion.

Daw hyn wrth i fyfyrwyr Ysgol Gyfun Gwynllyw a’u teuluoedd gynnal protest tu allan i’r Ganolfan Ddinesig am 11yb heddiw.

Mae disgyblion sydd yn teithio i chweched dosbarth ysgol cyfrwng Gymraeg yn dod o siroedd Casnewydd, Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy, ac yn dibynnu ar y gwasanaeth bws a ddarperir gan y sir i’w cludo yno.

Ond o fis Medi ymlaen fe fydd yn rhaid iddyn nhw dalu £347 am y flwyddyn academaidd i deithio ar y bws, cynnydd o £80 ers y llynedd.

‘Diffyg ymgynghori’

Ac yn ôl Elin Maher, rhiant lleol a chynrychiolydd mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) yng Nghasnewydd, dyw’r cyngor ddim yn trin y disgyblion cyfrwng Gymraeg yn gyfartal.

“Bu’r diffyg ymgynghori sylfaenol gyda disgyblion a rhieni ynghylch twf mewn costau yn gwbl annerbyniol,” meddai Elin Maher.

“Er bod y Cyngor yn honni eu bod yn trin pob disgybl yn gyfartal, gwirionedd y sefyllfa yw nad oes opsiwn lleol i ddisgyblion sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg; does dim darpariaeth o fewn taith gerdded neu os dymuna rhieni eu gyrru, fel sydd i ddisgyblion sy’n dewis astudio trwy gyfrwng y Saesneg.

“Mae’r disgyblion sy’n dymuno cael mynediad at Addysg Gymraeg yn gwbl ddibynnol ar wasanaeth bysiau a ddarperir gan y Sir. Felly nid yw polisi sy’n amcanu i drin pawb yn gyfartal o reidrwydd yn trin pawb yn deg.”

Hyrwyddo addysg Gymraeg

Fe awgrymodd fod angen i’r awdurdod lleol ystyried y ddyletswydd arni i hyrwyddo mynediad i addysg Gymraeg.

“Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, Llywodraeth Cymru yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i hyrwyddo mynediad at Addysg Gymraeg,” mynnodd Elin Maher.

“Ydy codi tâl o £350 yn hyrwyddo? Beth os fydd dau o blant gyda chi yn y chweched? £700 i gyrraedd yr ysgol?

“Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y gwrthdaro presennol rhwng dwy strategaeth genedlaethol – gwrthdaro sydd ar hyn o bryd yn galluogi Awdurdodau Lleol i osgoi cyfrifoldeb i hyrwyddo Addysg Gymraeg a darparu ar sail disgresiwn yn unig.”

Mae disgwyl y bydd ysgol Gwynllyw yn llawn erbyn 2017, ac yn ddiweddar fe gymeradwyodd Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd ddogfen fyddai’n cychwyn ystyried sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas.