Ann Clwyd
Mae’r Aelod Seneddol dros Gwm Cynon Ann Clwyd wedi awgrymu y gallai hi sefyll eto dros ei hetholaeth yn etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ar ôl dweud eisoes ei bod hi am adael Tŷ’r Cyffredin.

Daw’r awgrym yn sgil ffrae ymysg y blaid Lafur yn yr etholaeth oherwydd y penderfyniad i gael rhestr fer merched yn unig i’w holynu hi ar gyfer yr etholiad nesaf.

Dywedodd Ann Clwyd nôl ym mis Chwefror eleni na fyddai hi’n sefyll eto fel Aelod Seneddol pan ddaw’r etholiad yn 2015.

Ond mae’n ymddangos ei bod hi’n ystyried newid ei meddwl ar ôl i bobl gysylltu â hi’n gofyn iddi aros yn y swydd.

Merched yn unig

“Rwyf wedi derbyn nifer o lythyron gan bobl yn gofyn i mi sefyll eto ac rwy’n ystyried y peth,” meddai wrth WalesOnline. “Dyw’r NEC [pwyllgor gweithredol cenedlaethol y Blaid Lafur] ddim wedi symud tuag at ddewis ymgeisydd newydd eto ac alla’i ddim eu gweld nhw’n gwneud fis Awst.

“Mae’r wardiau [lleol yng Nghwm Cynon] wedi ymgynghori a dywedodd eu haelodau eu bod eisiau dewis yr ymgeisydd gorau. Fe ddywedon nhw y byddan nhw’n dewis dynes os mai hi oedd yr ymgeisydd gorau ond nad ydyn nhw eisiau rhestr fer merched yn unig.

“Rwy’n ystyried y ceisiadau fy mod i’n sefyll eto ond heb gysylltu â’r blaid yn ganolog hyd yn hyn.”

Mae’r blaid Lafur wedi bod yn awyddus i ethol mwy o fenywod i’r Senedd yn Llundain, ac yn gweld rhestrau’r merched yn unig mewn rhai ardaloedd fel ffordd o wneud hynny.

Mae sôn wedi bod ’na fyddai aelodau lleol yng Nghwm Cynon yn barod i ymgyrchu dros y blaid petai nhw’n bwrw ymlaen â’u cynlluniau ar gyfer y rhestrau byr, ond gan fod gan Lafur fwyafrif sylweddol yn yr etholaeth nid yw’n debygol o olygu colli’r sedd.

Mae Ann Clwyd wedi bod yn ymgyrchu’n llafar dros newidiadau i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan gynnwys cynnal ymchwiliad brys i safonau gofal, ac wedi ffraeo gyda Phrif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn gyhoeddus am y peth.