Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi cynnal ymchwiliad i ystyried y newidiadau sydd eu hangen os caiff Bil Cymru ei basio – sy’n golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi rhan o’i chyllideb ei hun drwy ddatganoli rhai pwerau trethu.

Mae Bil Cymru wrthi’n mynd drwy ddau Dŷ’r Senedd ar hyn o bryd.

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi argymell y dylai proses gyllidebol newydd lynu wrth y deg “Egwyddor ar gyfer Llywodraethu Cyllidebol” a chydymffurfio ag egwyddorion drafft presennol ar gyfer Llywodraethu Cyllidebol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) hyd nes y cânt eu cadarnhau.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn awyddus i weld y trefniant presennol o ddyraniadau syml i bortffolios gweinidogol yn cael ei ddisodli gan broses gyllidebol fanylach.

Hanfodol

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Os caiff Bil Cymru ei basio, bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am godi rhan o’i chyllideb ei hun drwy ddatganoli rhai pwerau trethu. Gall hefyd fenthyca arian am y tro cyntaf.

“Credwn ei bod yn hanfodol bod proses gadarn a manwl ar waith i graffu ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru.

“Hyd yma, dim ond cymeradwyo’r cyfanswm y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario bob blwyddyn y mae’r Cynulliad wedi gallu ei wneud, ac ar wahân i faint a ddyrennir i bob portffolio gweinidogol, ychydig iawn o fanylion a gawn.

“Wrth i Gymru aeddfedu fel democratiaeth, mae’n rhaid iddi allu mantoli’r cyfrifon a chynllunio ar gyfer y dyfodol, a dyna pam y bydd rhan nesaf ein hymchwiliad i arfer o ran y gyllideb yn edrych yn fanwl ar sut y bydd proses gyllidebol ddiwygiedig yn gweithio.

Bydd y Pwyllgor yn trafod manylion pellach am sut y bydd y gweithdrefnau cyllidebol yn newid yng Nghymru yn ystod tymor yr hydref.