Parhau mae’r gwrthdaro yn Gaza er gwaetha’r ymdrechion i sicrhau cadoediad, wrth i deuluoedd Palestinaidd ffoi o’u cartrefi ac wrth i nifer y meirw gynyddu.
Mae mwy na 700 o Balestiniaid a 34 o Israeliaid bellach wedi cael eu lladd ers i’r ymladd ddechrau ar 8 Gorffennaf.
Wrth i’r trafodaethau yn y Dwyrain Canol barhau, mae arweinydd Hamas wedi mynnu na fydd milwriaethwyr yn ildio nes bod Israel yn dod a’u blocâd o Lain Gaza i ben. Mae’r blocâd wedi bod mewn grym ers 2007 pan ddaeth Llain Gaza o dan reolaeth Hamas.
Yn y cyfamser mae lluoedd Israel wedi gwrthdaro gyda gwrthryfelwyr Hamas ar gyrion Khan Younis, gan ladd o leiaf wyth o filwriaethwyr, yn ôl swyddogion iechyd Palestina.
Roedd cannoedd o bobl wedi ffoi o’u cartrefi wrth i’r ymladd ddwysau gan geisio lloches mewn ysgolion y Cenhedloedd Unedig gerllaw.
Yn ôl Aziza Msabah, un o drigolion y ddinas yn Llain Gaza: “Mae’r awyrennau a’r bomiau i gyd o’n cwmpas ni. Maen nhw’n taro’r tai, sy’n dymchwel ar ein pennau ni.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry, sydd yn Jerwsalem, bod y trafodaethau “wedi cymryd camau ymlaen. Ond mae gwaith i’w wneud o hyd.”