Blog byw golwg360 ar Gemau’r Gymanwlad, yn cadw llygad ar sut hwyl mae’r Cymry’n ei gael yn y cystadlu.
*Medal arian i Gymru yn y gymnasteg rythmig
*Canlyniadau cymysg i’r nofwyr a’r bowlwyr lawnt
*Tîm hoci a phêl-rwyd Cymru’n colli eu gemau agoriadol
*Jiwdo, bowlio lawnt a sboncen heddiw hefyd
22.10: MEDAL ARIAN I GYMRU
A dyna ni, Cymru’n cipio medal arian yn y gymnasteg rythmig – llongyfarchiadau mawr i Frankie Jones, Laura Halford a Nikara Jenkins! Nhw sy’n gorffen yn ail ar ôl dros ddeg awr o gystadlu, gyda Chanada’n ennill a Malaysia’n gorffen yn drydydd, trwch blewyn o flaen Lloegr.
Medal cyntaf Cymru yn y Gemau eleni felly, a gobeithio y cawn ni fwy yfory. Fe fyddwn ni nôl gyda’r blog i ddod a’r diweddaraf o’r cystadlu i chi.
21.30: Ond … mae Cymru’n agosau at eu medal cyntaf yn Glasgow eleni, wrth i gystadleuaeth y gymnasteg rythmig agosau at y diwedd. Hon fyddai medal tîm gymnasteg rythmig cyntaf erioed Cymru – ond pa liw fydd hi? Wel, mae’n edrych fel yr arian ar hyn o bryd.
21.28: Yn y munudau diwethaf mae Rob Holderness wedi gorffen yn seithfed yn ei ffeinal nofio ef, a thîm ras gyfnewid 4x100m dull rhydd y merched wedi gorffen yn chweched, felly dim medalau yn y pwll heddiw i Gymru.
Yn rasys cynderfynol y nofio mae Jemma Lowe drwyddo ond Alys Thomas allan yn ras 100m dull pili pala’r merched, Bethan Sloan allan o 50m y dull broga, Tom Laxton allan o 50m y dull pili pala, a Marco Loughran, Otto Putland a Xavier Mohammed i gyd allan o 100m y dull cefn.
Ymysg y Cymry eraill a gystadlodd heno mae Joel Makin wedi colli yn y sboncen, tîm y dynion wedi colli yn y tenis bwrdd, ac yn y bowlio lawnt mae Caroline Taylor wedi colli yn y senglau a pharau cymysg para-fowlio B2/B3 hefyd wedi colli – dim ond parau’r dynion sydd wedi ennill heno.
19.50: Mae Jazz Carlin newydd orffen yn chweched yn ffeinal 200m y dull rhydd – hanner eiliad y tu ôl i safleoedd y medalau ac ymdrech dda ar y diwedd, ond mewn gwirionedd roedd hi ar ei hôl hi am y rhan fwyaf o’r ras.
Ymddiheuriadau gyda llaw, doedd Daniel Jervis heb gyrraedd ffeinal y 400m dull rhydd, yn wahanol i’r wybodaeth gawson ni’n gynharach – doedd ei amser ddim digon cyflym yn y ras ragbrawf.
Ychydig o ganlyniadau eraill i chi – mae trioedd bowlio lawnt dynion Cymru wedi curo Namibia o 24-7.
Yn y sboncen mae Deon Seffery wedi colli 3-1 (9-11, 6-11, 11-9, 9-11) i Joshana Chinappa o India, Tesni Evans wedi trechu Kerry Sample o Trinidad & Tobago 3-0 (11-3, 11-2, 11-3), a Peter Creed wedi colli 3-1 (9-11, 7-11, 11-13) i Mohd Nafiizwan Mohd Adnan o Malaysia.
17.42: Nid Jervis, Carlin, Holderness a thîm y ras gyfnewid fydd yr unig Gymry yn y pwll heno, fodd bynnag. Mae rhai o’r lleill yn nofio yn rownd gynderfynol eu cystadlaethau nhw, er na fydd y ffeinalau heno.
Fe fydd Bethan Sloan yn nofio’r 50m dull broga, Tom Laxton ym 50m broga’r dynion, Jemma Lowe ac Alys Thomas yn y 100m dull pilia pala, ac Otto Putland, Marco Loughran a Xavier Mohammed yn ras 100m y dull cefn.
17.06: Rhagor o ganlyniadau bowlio lawnt a sboncen i ddod nes ymlaen, ond fe fydd na bedwar o rasys terfynol y nofio heno gyda Chymry’n cystadlu am y medalau, yn ogystal â ffeinal y gymnasteg rythmig – felly siawns am ambell i fedal cyn diwedd y dydd?
Dyma drefn ffeinalau’r nofwyr heno:
19.16: Nofio 400m Dull Rhydd Dynion – Daniel Jervis yn nofio dros Gymru.
19.35: Nofio 200m Dull Rhydd Merched – Jazz Carlin yn y ffeinal.
21.01: Nofio 200m Dull Broga Dynion – Rob Holderness yn gobeithio am fedal.
21.08: Nofio 4x100m Ras Gyfnewid Dull Rhydd Merched – Danielle Stirrat, Hannah McCarthy, Mari Davies a Sian Morgan yn cystadlu.
16.57: Dim ond un canlyniad i ddod i chi ers y tro diwethaf – tîm tenis bwrdd Cymru’n anffodus wedi colli 1-0 (3-1) i Seland Newydd.
Yn y gymnasteg rythmig, fodd bynnag, mae Cymru’n gwneud yn wych! Hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth, ar ôl dau berfformiad, mae’n nhw’n ail yn y gystadleuaeth yn safle’r fedal arian, gyda Laura Halford yn arwain y ffordd gyda’r sgorau uchaf.
Canada sy’n gyntaf ar hyn o bryd, gyda Malaysia’n drydydd a Lloegr yn bedwerydd.
15.07: Mae rhai o’r cystadlaethau fydd yn digwydd nes ymlaen y prynhawn yma yn cynnwys ail gêm trioedd bowlio lawnt y dynion wrth iddyn nhw herio Namibia am 15.45yp, a’r tîm tenis bwrdd merched yn herio Seland Newydd am bedwar.
Yn ogystal â hynny fe fydd rhagor o sboncen, seiclo, a jiwdo’n mynd ymlaen, gyda ffeinal y gymnasteg rythmig i ddod hefyd.
15.02: Mae tîm pêl-rwyd Cymru wedi colli eu gêm agoriadol bellach yn erbyn Awstralia, er gwaethaf y chwarter agoriadol addawol yna. Fe enillodd yr Awstraliaid yr ail chwarter o 22-8 i ymestyn eu mantais, cyn cipio’r trydydd a’r pedwerydd hefyd am sgôr terfynol o 63-36.
Colled i Gymru yn y sboncen hefyd, wrth i Scott Fitzgerald golli 3-0 (5-11, 12-14, 9-11) i Bradley Hindle, ond ar ôl colli’r gêm gyntaf roedd yn anlwcus i beidio â chipio’r ail a’r drydedd gan wthio’r gŵr o Malta’r holl ffordd.
14.28: Ychydig mwy o ganlyniadau sydd wedi dod drwyddo ar ddechrau’r prynhawn, gyda thîm cymysg badminton Cymru’n curo Awstralia o 2-1.
Yn y bowlio lawnt mae Caroline Taylor wedi trechu Matimba Like o Zambia yn senglau’r merched, tra bod tîm parau dwbl para B2/B3 Cymru wedi colli 6-16 i’r Albanwyr.
Canlyniad sboncen arall hefyd wedi’n cyrraedd, sef bod Joel Makin wedi ennill 3-0 yn erbyn Alexander Arjoon o Guyana, ond yn llai cyfforddus o lawer (11-9, 11-8, 11-5) na Creed yn gynharach.
14.06: Mae gêm bêl-rwyd Cymru yn erbyn Awstralia bellach wedi dechrau, ac ar ôl y chwarter cyntaf Cymru sydd ar ei hôl hi ond dim ond o 10-9 yn erbyn pencampwyr y byd.
Camgymeriad gan Nikara Jenkins yn y gymnasteg rythmig yn golygu nad yw hi’n gwneud cystal ar hyn o bryd, ond sgoriau Frankie Jones a Laura Halford yn y pump uchaf hyd yn hyn!
13.50: Lewis Oliva heb wneud hi drwyddo yn y beicio sbrint ar y trac yn anffodus. Ond i chi ffans sboncen allan yn fynna, mae Peter Creed drwyddo ar ôl trechu Ian Rukunya K Rukunya o Uganda 3-0 (11-0, 11-2, 11-0).
13.24: Tîm tenis bwrdd Cymru bellach wedi curo Papua Guinea Newydd – mae hi wedi tawelu rhywfaint dros amser cinio, ond sgroliwch i lawr i weld sut mae rhai o aelodau eraill tîm Cymru wedi bod yn gwneud, gyda chanlyniadau mewn bold.
Lloegr wedi ennill medal aur (ac efydd) cyntaf y Gemau yn y triathlon. Tase Non a Helen ond wedi bod yno …
13.00: Cymru dim ond yn bedwerydd yn y ras gyfnewid dull rhydd 4x100m yn y pwll. Brandon Dodge yn gorffen yn seithfed yn y gystadleuaeth jiwdo ar ôl colli i Razak Abugiri o Ghana.
12.50: Felly mae ymladdwyr jiwdo Cymru allan o’r ras am fedalau bellach, ond digon dal i ddod. Fe fydd Lewis Oliva’n seiclo sbrint ar y trac toc wedi 1 o’r gloch, tîm pêl-rwyd Cymru’n herio Awstralia am 1.30yp, cyn i’r ddwy wlad hero’i gilydd yng nghystadeuaeth tîm cymysg y badminton am 2.00yp.
2-0 i Loegr oedd sgôr terfynol yr hoci, gyda llaw.
12.42: Mwy o ganlyniadau nofio. Marco Loughran drwyddo yn ail ac Otto Putland yn bedwerydd yn eu rhagbrawf 100m dull cefn nhw, tra bod Xavier Mohammed yn bumed yn ei ragbrawf yntau.
Rob Holderness hefyd drwyddo yn y rhagbrawf 200m dull broga ar ôl dod yn ail.
Kirsty Powell allan yn rownd wyth olaf y jiwdo 57kg ar ôl colli i Nekoda Davis o Loegr, a Rhiannon Henry a Rachel James hefyd yn methu allan ar gyrraedd ffeinal y para-feicio sbrint tandem.
12.08: Cwpl o ganlyniadau eraill o’r pwll – Tom Laxton yn bedwerydd yn ei ragbrawf nofio 50m dull pili pala, felly fe fydd yn rhaid iddo aros i weld a yw hynny’n ddigon da.
Jemma Lowe hefyd newydd rasio, ac mae hi drwyddo ar ôl gorffen yn ail o’r rhagbrawf hi yn ras 100m dull pili pala’r merched. Alys Thomas yn bedwerydd yn y rhagbrawf arall, felly hefyd yn aros i weld.
12.00: Lot o Gymry’n cystadlu o hanner dydd ymlaen hefyd – gan gynnwys yn y gymnasteg rhythmig, gyda thîm merched Cymru (Francesca Jones, Laura Halford a Nikara Jenkins) yn gobeithio cipio medal cyntaf Cymru.
Mwy o nofio, jiwdo, tenis bwrdd a seiclo i ddod yn yr awr nesaf hefyd:
12.02: Nofio 100m Dull Pili Pala Merched, Jemma Lowe (Heat 2) a Alys Thomas (Heat 4)
12.14: Nofio 100m Dull Cefn Dynion, Otto Putland & Marco Loughran (Heat 3) a Xavier Mohammed (Heat 5)
12.20: Jiwdo 57kg Merched, Kirsty Powell (CYM) v Nekoda Davis (ENG)
12.30: Nofio 100m Dull Broga Dynion, Rob Holderness
12.45: Nofio 4x100m Ras Gyfnewid Dull Rhydd Merched (Danielle Stirrat, Hannah McCarthy, Mari Davies, Sian Morgan)
12.50: Tenis Bwrdd Tîm Dynion, Cymru (Conor Edwards, Daniel O’Connell, Ryan Jenkins, Stephen Jenkins) v Papua Guinea Newydd
11.50: Mae Cymru’n colli o 1-0 ar yr egwyl yn y gêm hoci yn erbyn Lloegr, gyda llaw.
11.45: Mwy o ganlyniadau wedi’n cyrraedd ni yn y nofio, jiwdo a sboncen.
Mae Daniel Jervis drwyddo ym 400m y dull rhydd ar ôl ennill ei ragbrawf, ond dim lwc cystal i Ieuan Lloyd yn ei ragbrawf ef yn yr un cystadleuaeth wrth iddo orffen yn seithfed.
Yn nofio 200m dull rhydd y merched dim ond pumed oedd Ellena Jones yn ei rhagbrawf hi, ond mae Jazz Carlin drwyddo ar ôl dod yn ail yn ei ras hi i Emma Mckeon o Awstralia – a orffennodd eiliad yn gynt na Carlin a thorri record y Gemau. Yn y nofio broga 50m dim ond pumed oedd Bethan Sloan yn ei rhagbrawf hi.
Mae Kirsty Powell drwyddo yn y jiwdo 57kg i ferched ar ôl trechu Cynthia Rahming o’r Bahamas. Ond mae Jamie MacDonald nawr allan ar ôl colli i Siyabulela Mabulu o Dde Affrica, a Brandon Dodge hefyd allan yn y pwysau dan 60kg ar ôl colli i Navjot Chana o India.
Yn y sboncen, mae Deon Seffery hefyd drwyddo ar ôl trechu Kimberley Borg Cauchi o Malta yn gyfforddus (11-3, 11-1, 11-1).
11.04: Yn anffodus mae pedwarau’r merched newydd golli yn y bowlio lawnt i Zambia, o 16-9.
Buddugoliaeth Jamie McDonald gynnau, gyda llaw, yn golygu ei fod o’n herio Siyabulela Mabulu o Dde Affrica yn y jiwdo 66kg mewn ychydig funudau.
Y newyddion arall o’r Gemau ydi fod y nofwraig Albanaidd Hannah Miley wedi torri record Gemau’r Gymanwlad yn rhagbrawf medli unigol y 400m.
10.52: Mae trioedd bowlio lawnt Cymru bellach wedi gorffen eu gêm yn erbyn Niue, ac wedi ennill yn gyfforddus o 34-5.
Dim lwc cystal i Jade Lewis yn y jiwdo, fodd bynnag. Mae hi wedi colli i Kelly Edwards o Loegr yn y categori pwysau 52kg.
10.44: Newyddion da a drwg – yn anffodus mae athletwr arall, y nofiwr Ryan West, wedi tynnu allan o dîm Cymru am resymau personol.
Ond ar nodyn fwy hapus fe gafodd athletwyr Cymru eu dewis fel y rhai oedd wedi gwisgo orau yn seremoni agoriadol y Gemau ddoe! Roedd y merched mewn ffrogiau coch smart a wasgod du, a’r dynion yn gwisgo siacedi tywyll gyda phatrwm tartan ar y tu mewn. Tasen ni ond yn cael medal am hynny, ynte?
10.35: Cwpl o ganlyniadau i chi hefyd – mae tîm tenis bwrdd merched Cymru, gyda Charlotte Carey a Naomi Owen, wedi ennill eu gêm yn erbyn Mauritius y bore yma o 2-0 (3-0, 3-1).
Y gornestau jiwdo cyntaf hefyd wedi’u cwblhau – mae Jamie McDonald wedi trechu ei wrthwynebydd Leslie Smith o Sierra Leone, a Brandon Dodge hefyd wedi ennill yn erbyn Christos Trikomitis o Gyprus.
Y newyddion arall ydi fod y rhedwr pellter hir Mo Farah, un o sêr Llundain 2012, ddim am fod yn cystadlu yn y Gemau dros Loegr bellach.
10.30: Rhai o gystadlaethau’r Cymry fydd yn digwydd ar ôl 11.00yb i chi hefyd:
11.01: Seiclo Sbrint Trac Dynion, Lewis Oliva
11.03: Jiwdo 57kg Merched, Kirsty Powell (CYM) v Cynthia Rahming (BAH)
11.12: Nofio 200m Dull Rhydd Merched, Ellena Jones (Heat 2) a Jazz Carlin (Heat 4)
11.28: Nofio 100m Dull Rhydd Para 59 Dynion, Ryan West
11.32: Nofio 50m Dull Broga Merched, Bethan Sloan
11.45: Bowlio Lawnt Para B2/B3 Parau Cymysg, Cymru (Gilbert Miles, John Glover, Ronald Whitehead, Rosa Crean) v Yr Alban
11.45: Bowlio Lawnt Senglau’r Merched, Caroline Taylor (CYM) v Matimba Ike (ZAM)
11.46: Seiclo Trac Para Sbrint B Tandem Merched, Rhiannon Henry
9.30: Mae ffeinal y triathlon hefyd yn dechrau am 11.00yb, a dyna pryd welwn ni fedal cyntaf y Gemau. Yn anffodus i Gymru nid yw Non Stanford a Helen Jenkins, dwy o’r ffefrynnau ar gyfer y gystadleuaeth yma, yn cystadlu oherwydd anafiadau.
9.25: Mae’r bowlwyr eisoes wedi dechrau, a dyma i chi restr o’r Cymry fydd yn cystadlu cyn 11.00yb heddiw.
9.30: Tenis Bwrdd Tîm, Gêm Grŵp Cymru (Angharad Phillips, Charlotte Carey, Chloe Anna Thomas, Megan Phillips, Naomi Owen) v Mauritius
10.00: Jiwdo 66kg Dynion, Jamie McDonald (CYM) v Leslie Smith (SLE)
10.28: Jiwdo dan 60kg Dynion, Brandon Dodge (CYM) v Christos Trikomitis (CYP)
10.47: Nofio 400m Dull Rhydd Dynion, Daniel Jervis (Heat 2) & Ieuan Lloyd (Heat 4)
10.56: Jiwdo 52kg Merched, Jade Lewis (CYM) v Kelly Edwards (ENG)
11.00: Hoci Merched, Gêm ragbrofol Cymru v Lloegr
11.00: Sboncen – Peter Creed (CYM) v Ian Rukunya K Rukunya (UGA), Scott Fitzgerald (CYM) v Bradley Hindle (MLT), Joel Makin (CYM) v Alexander Arjoon (GUY), Deon Seffrey (CYM) v Kimberley Borg Cauchi (MLT)
8.45: Ond i ddechrau pethau heddiw fe fydd timau bowlio lawnt Cymru, ac fe ddylai dwy o’r gemau fod yn dechrau tua nawr.
Mae trioedd y dynion – Jonathan Tomlinson, Marc Wyatt a Paul Taylor – yn chwarae yn rownd gyntaf eu cystadleuaeth nhw yn erbyn Niue.
Niue, ynys yn y Cefnfor Tawel, ydi’r wlad leiaf sy’n cystadlu yn y Gemau eleni, gyda phoblogaeth o 1,600. Na, dim camgymeriad teipio ydi hwnna. 1,600!
Yng nghystadleuaeth pedwarau’r merched mae Anwen Butten, Kathy Pearce, Kelly Packwood a Lisa Forey yn herio tîm Zambia yn eu gêm agoriadol nhw.
8.39: Heddiw fe fydd nifer o athletwyr Cymru’n dechrau ar y cystadlu gan gynnwys rhai o’r nofwyr, bowlwyr lawnt a’r chwaraewyr sboncen.
Fe fydd rhai hyd yn oed yn cystadlu am fedalau ar y diwrnod cyntaf, gan gynnwys Jazz Carlin yn y nofio, Francesa Jones, Laura Halford a Nikara Jenkins yn y Gymnasteg Rythmig, a Rhiannon Henry yn y para-seiclo sbrint.
Fe fydd rhai o’r Cymry hefyd yn gobeithio cyrraedd rowndiau terfynol y gwahanol bwysau jiwdo a cheisio cipio un o’r medalau heno.
8.30: Helo, a chroeso i flog byw golwg360 ar Gemau’r Gymanwlad!
Ar ôl y seremoni agoriadol neithiwr mae’r cystadlu o’r diwedd yn dechrau, ac fe fyddwn ni’n cadw llygad ar y Cymry fydd yn cystadlu yn ystod y dydd a dod a’r diweddaraf i chi ar sut maen nhw’n gwneud.
Mae gan Gymru dîm o 230 o athletwyr yn y Gemau eleni, felly er gwaethaf absenoldeb rhai o’r sêr mawr oherwydd anafiadau a gwaharddiadau, fe ddylai fod yna ddigon o gystadlu i’n cadw ni a chi’n brysur.
Felly boed chi yn y swyddfa, adref yn ymlacio neu allan yn y tywydd braf ar eich teclynnau, ewch i dwrio am y faner goch yna a byddwch yn barod i’w chwifio pan fydd y medalau’n dechrau cyrraedd (gobeithio, beth bynnag!).