Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi y bydd tair nyrs yn wynebu cyhuddiadau pellach yn dilyn ymchwiliad i esgeulustod a ffugio cofnodion cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Mae’r tair nyrs wedi cael eu cyhuddo o esgeulustod mewn cysylltiad â chwech o gleifion eraill. Cafodd y tair nyrs eu gwahardd o’u gwaith y llynedd.

Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr ar 28 Gorffennaf.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw wedi cysylltu â’r cleifion neu deuluoedd y cleifion i’w hysbysu am y datblygiadau diweddaraf.

Yn y cyfamser mae bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg wedi gwahardd nyrs arall o’r gwaith.

Mae’n golygu bod 15 nyrs wedi eu gwahardd i gyd – 14 yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac un yn Ysbyty Treforys.

Daeth y problemau gyda’r cofnodion  i’r amlwg ar ddechrau 2013.

Dywed y bwrdd iechyd eu bod yn parhau i helpu Heddlu’r De gyda’u hymchwiliadau.