Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhuddo’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, o “wrthod cydnabod” adroddiad pwysig am y gofal dwys sy’n cael ei ddarparu o fewn y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi heddiw yn dweud mai Cymru sydd â’r lleiaf o welyau o holl unedau gofal dwys Ewrop a bod angen 73 yn rhagor o welyau ar frys ledled y wlad. Mae hefyd yn rhybuddio y bydd y ffigwr hwn yn codi i 295 o fewn y ddeng mlynedd nesaf gan fod disgwyl i nifer y cleifion fydd yn derbyn gofal dwys gynyddu.
Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, nid yw Mark Drakeford wedi cyhoeddi camau pendant i gynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael i gleifion gofal dwys, fel mae’r adroddiad yn ei awgrymu.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio ei bod yn mynd i’r afael a’r sefyllfa, drwy ganolbwyntio ar leihau’r amser oedi wrth drosglwyddo gofal.
Rhybudd
Dywedodd Kirsty Williams: “Fe rybuddiwyd y Gweinidog Iechyd yn 1999 fod problem gyda nifer y gwelyau ac ers hynny, rydym wedi mynd am yn ôl.
“Rwy’n bryderus iawn am ymateb y gweinidog i’r adroddiad, sydd ddim yn rhoi unrhyw fath o ymrwymiad i fynd i’r afael a’r broblem drwy gynyddu nifer y gwelyau – dim ond i gwneud defnydd o’r gwelyau sydd ar gael.
“Fydd hyn ddim yn datrys y problemau sylfaenol. Mae angen i Lafur roi’r gorau i anwybyddu’r broblem a delio hefo’r mater yma sydd wedi bodoli ers dros ddegawd.”
Defnydd priodol
Mewn datganiad, ddywedodd Mark Drakeford fod y Gwasanaeth Iechyd yn “darparu gwasanaethau gofal dwys o ansawdd da ledled Cymru” ond nad yw gwelyau gofal dwys yn cael eu defnyddio’n briodol bob amser:
“Er enghraifft, nid oes angen y lefel honno o ofal dwys ar bob claf sydd mewn gwelyau gofal dwys ac mae’n bosibl bod rhai cleifion mewn gwelyau gofal dwys yn aros i gael eu trosglwyddo i ward ysbyty arferol am ofal a chymorth parhaus.
“Rhaid inni wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym eisoes ac mae’n rhaid cyflymu’r camau gweithredu i fynd i’r afael â’r defnydd aneffeithiol o’n gwelyau gofal dwys.
“Dylai pob bwrdd iechyd yng Nghymru gael cynllun ar waith i fynd i’r afael â’r oedi wrth drosglwyddo gofal a bydd yn ofynnol iddynt leihau’r oedi hwn yn raddol.”