Mae Rebecca Evans, y dirprwy weinidog gyda chyfrifoldeb dros amaethyddiaeth a physgodfeydd, wedi lansio cynlluniau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru heddiw.

Bydd y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yn arwain at fwy a mwy o weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant, ac yn creu dull sy’n canolbwyntio’n fwy ar ganlyniadau, ac sy’n cynnwys gwell monitro a gwerthuso.

Wrth lansio’r fframwaith, fydd yn para deng mlynedd, yn y Sioe Fawr heddiw, siaradodd Rebecca Evans am bwysigrwydd codi safonau lles ar gyfer da byw ac anifeiliaid anwes yng Nghymru.

Meddai Rebecca Evans AC: “Mae’r ffordd rydyn ni’n trin anifeiliaid, boed ar fferm neu yn ein cartrefi, yn adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, ac rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

“Mae’r Fframwaith newydd hwn yn cynnig cyfle i wella safonau iechyd a lles yn barhaus ar gyfer pob anifail yng Nghymru. Mae hyn yn hynod bwysig i’n cynhyrchwyr bwyd ac yn rhan hanfodol o gynnal diwydiant ffermio proffidiol.”

Mae tîm o arbenigwyr wedi’i benodi i helpu i gyflwyno’r Fframwaith ac i roi cyngor i’r Llywodraeth ar sut i atal, rheoli a dileu clefydau ymhlith anifeiliaid yng Nghymru, yn ogystal â rhoi cyngor ar les anifeiliaid.