Llyndy Isaf yn Eryri
Cyhoeddwyd heddiw ar faes Sioe Frenhinol Cymru mai Tudur Parry, ffermwr 21 oed o Garndolbenmaen, yw enillydd ysgoloriaeth ffermio nodedig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn partneriaeth a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru.

Pwrpas yr ysgoloriaeth yw rhoi cyfle i ymgeiswyr ifanc ddatblygu sgiliau ffermio allweddol, felly am flwyddyn, bydd Tudur Parry yn rheoli fferm fynydd 614 acer Llyndy Isaf yn Eryri.

Bydd yn cymryd lle Caryl Hughes, yr ysgolor cyntaf erioed, ac fe fydd yn gyfrifol am reoli pob agwedd o waith y fferm gan gynnwys rheoli stoc, gwaith gweinyddol ac ymarferol.

Eiconig

Roedd llygaid y byd ar fferm Llyndy Isaf- un o ffermydd mwyaf eiconig Cymru – pan gafodd ei hachub mewn apêl gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2012. Cafodd yr apêl ei arwain gan yr actor byd-enwog Matthew Rhys yn ei rôl fel Llysgennad Apêl Eryri.

Dywedodd seren y gyfres The Americans: “Pan ymwelais â Llyndy Isaf yn ddiweddar ym mis Mehefin eleni, gallwn weld bod rhan mor brydferth ac arbennig o Eryri yn mynnu ein cefnogaeth.

“Rwy’n falch bod ffermwyr ifanc fel Caryl a Tudur nawr yn cael cyfle i ddysgu galwedigaeth a ffordd draddodiadol o fyw, lle gallant gyfrannu at oroesiad, cadwraeth a dyfodol y lle hynod bwysig hwn.”

‘Cyfle gwych’

Ychwanegodd Tudur Parry, sydd newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Amaethyddiaeth a Rheolaeth Cefn Gwlad:

“Bydd yn gyfle gwych. Rwy’n wirioneddol edrych ymlaen at gael defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gefais yn y brifysgol ar y fferm.

“Cefais fy magu ar fferm wartheg, felly rwy’n gobeithio helpu i ddatblygu’r agwedd honno ar y busnes.”