Cafodd digwyddiad barddoniaeth yng Nghaerdydd ei ganslo nos Wener yn dilyn ymosodiad yn y dafarn ble roedd y noson am gael ei chynnal.

Roedd Bragdy’r Beirdd, a oedd yn cael ei gynnal fel rhan o wythnos Tafwyl, yn gado perfformiadau gan y Prifardd Rhys Iorwerth, Catrin Dafydd, Osian Rhys Jones, cyflwynydd Stwnsh Anni Llŷn, ac eraill.

Ond, tua 6:39 yr un noson, fe wnaeth dyn ymosod ar ddyn arall yn safle’r digwyddiad yn y Canton Sports Bar ar Ffordd Lecwydd yn Nhreganna.

Cafodd y dyn anafiadau i’w fraich a bu’n rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty. Dywedodd yr heddlu nad yw’r anaf yn un difrifol.

Cafodd dyn 39 mlwydd oed ei arestio ddydd Sadwrn ar amheuaeth o ymosod. Mae’n parhau i gael ei gadw yn y ddalfa.

Ond, er bod y digwyddiad wedi ei ganslo, dywedodd un o’r trefnwyr wrth Golwg360 na fydd yr ymosodiad yn atal y beirdd rhag perfformio eto yn y Canton Sports Bar.

Maen nhw’n bwriadu ail-drefnu’r digwyddiad ym mis Medi.