Mae un o gwmnïau teledu mwyaf Tsieina wedi agor ei bencadlys Ewropeaidd yng Nghymru gan greu 70 o swyddi newydd.
Dywedodd cwmni THTF eu bod nhw wedi buddsoddi £1.6 miliwn i sefydlu’r pencadlys a ffatri ym Mhort Talbot.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi £600,000 o gyllid busnes i’r cwmni.
Mae 45 o swyddi eisoes wedi cael eu creu ar y safle ac mae THTF yn dweud eu bod nhw ar y trywydd iawn i greu 25 o swyddi eraill erbyn yr Hydref.
Ym mis Awst THTF fydd y cwmni cynhyrchu setiau teledu cyntaf ym Mhrydain i ddechrau cynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o setiau teledu manylder uchel lawn 4K.
Mae cwmni THTF yn rhan o Tongfang Global ac maen nhw’n cyflogi 1,200 o bobl. Maen nhw’n cynhyrchu setiau teledu o bob math ond brand Seiki y cwmni’n yw un o’r setiau teledu sy’n gwerthu fwyaf yn ei sector o fewn yr Unol Daleithiau.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae Tsieina yn farchnad fawr gyda phosibiliadau enfawr o ran buddsoddi mewnol ac yn farchnad y mae Cymru wedi bod yn ei thargedu’n ddyfal drwy ymweliadau busnes ac ymweliadau diwylliannol, teithiau masnach, cysylltiadau busnes a chytundebau masnachu.
“Rwy’n falch o groesawu THTF i Gymru ac yn llongyfarch y cwmni ar ei gynnydd rhagorol hyd yma. Mae’n newyddion da clywed ei fod yn creu swyddi ymhell cyn yr amserlen ac yn gweld Cymru yn lle gwych ar gyfer ei safle newydd.”
Meddai Philip Jones o THTF: “Mae Tongfang Global eisoes yn cyflenwi nifer o fanwerthwyr amlwg yn y DU o Tsieina, ac mae cael y cyfleuster hwn yng Nghymru yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth llawer gwell i’n cwsmeriaid, gydag amseroedd arwain byrrach.
“Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu’r busnes a byddwn yn targedu’r farchnad fanwerthu ym Mhrydain yn gyntaf cyn cyflenwi Ewrop, er inni dderbyn ein harcheb gyntaf o Ffrainc yr wythnos hon.”