Un o'r gwrthryfelwyr yn gwachod safle'r ddamwain awyren yn nwyrain yr Wcrain
Mae disgwyl i’r Prif Weinidog David Cameron wneud datganiad yn y Senedd heddiw ynglŷn â’r ddamwain awyren yn yr Wcráin a’r pwysau cynyddol ar Rwsia i weithredu yn erbyn gwrthryfelwyr yno.
Mae David Cameron wedi dweud wrth Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, bod ei gefnogaeth o wrthryfelwyr yn nwyrain yr Wcrain wedi “cyfrannu at y drasiedi erchyll” ac wedi atal arbenigwyr rhag cynnal ymchwiliad ar y safle.
Bu farw 298 o bobl ar ôl i awyren Malaysia Airlines daro’r ddaear ddydd Iau diwethaf pan gafodd ei saethu i’r llawr. Mae tystiolaeth yn awgrymu mai gwrthryfelwyr sy’n gefnogol i Rwsia oedd yn gyfrifol.
Yn ôl adroddiadau ar Sky News mae Vladimir Putin wedi rhyddhau datganiad yn rhoi addewid y bydd “yn gwneud popeth yn ei allu” i sicrhau bod arbenigwyr yn gallu archwilio’r safle yn ddiogel.
Mae hyd at 250 o gyrff wedi cael eu symud o’r safle gan y gwrthryfelwyr a’u cadw mewn cerbydau arbennig ar drên yn nhref Torez gerllaw.
Fe fydd y pwysau’n cynyddu ar Moscow heddiw wrth i’r Cenhedloedd Unedig gwrdd i drafod rhagor o sancsiynau yn erbyn Rwsia, ond mae Putin wedi rhybuddio na ddylai’r ddamwain gael ei defnyddio er mwyn sgorio pwyntiau “gwleidyddol”.