Dydd Llun fe fydd un o gwmnïau cyfieithu mwyaf gogledd Cymru yn symud ei bencadlys i hen adeilad sydd newydd gael ei adnewyddu yng Nghaernarfon.

Mae cwmni Cymen, gafodd ei sefydlu gan Eleri Lovgreen a Carolyn Iorwerth, yn symud i hen adeilad Llys y Goron yn y dref, am ei fod wedi tyfu’n rhy fawr i’w swyddfa bresennol yn Nhwll yn y Wal.

Bu Cymen yn adnewyddu’r adeilad rhestredig Gradd 1 dros y chwe mis diwethaf gyda chymhorthdal o £25,000 i wella cefnogaeth dechnegol yn y swyddfa newydd.

Newyddion da i’r Gymraeg

Dywedodd Aled Jones, rheolwr gyfarwyddwr Cymen: “Mae’r cwmni wedi bod yn gweithio yng nghalon Caernarfon – cadarnle’r iaith Gymraeg – am 27 mlynedd, ac rydym yn hynod falch o fod wedi tyfu yn y fath fodd.

“Wrth i fwy a mwy o gwmnïau chwilio am gymorth gyda’u hanghenion iaith Gymraeg, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am ein gwasanaethau ac wedi cyflogi llawer o staff newydd.

“Mae hyn yn beth gwych i’r cwmni, gan ein bod wedi gallu datblygu ac ehangu ein gwasanaethau craidd, ond mae hefyd yn newyddion da i’r iaith Gymraeg ac i’r rhai sy’n gweithio’n galed i’w chynnal a’i hamddiffyn.”