Edwina Hart
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi mynnu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i ymddygiad Edwina Hart pan oedd hi’n Weinidog Iechyd.
Mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae hi wedi cyhuddo’r Gweinidog Busnes presennol o dorri’r Cod Gweinidogol.
Daw’r honiadau ychydig dros wythnos ar ôl i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies gael ei ddiswyddo am dorri’r un côd.
Mae Kirsty Williams wedi cyhuddo Edwina Hart o geisio gwybodaeth wleidyddol sensitif gan gyn-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Gogledd Orllewin Cymru, Elfed Roberts yn 2007.
Mewn datganiad, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: “Rwy wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn mynnu ei fod yn cynnal ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r mater difrifol hwn.
“Waeth bynnag pa mor hir yn ôl ddigwyddodd hyn, mae’r ffaith ei fod wedi digwydd o gwbwl yn golygu bod llyfr rheolau’r gweinidogion wedi cael ei sathru gan Weinidog Llafur Cymru.
“Byddwn i’n maddau i unrhyw un sydd wedi dechrau meddwl bellach fod gan Weinidogion Llafur Cymru ddim parch o gwbl tuag at y Cod Gweinidogol bellach.”