Mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Theresa Villiers wedi rhybuddio y bydd hyd at 190 o Weriniaethwyr yn cael eu harestio pe bai digon o dystiolaeth yn eu herbyn. 

Daw’r cyhoeddiad wedi i ymchwiliad gan farwnwr ddod i’r casgliad nad yw llythyron a gafodd eu hanfon gan yr heddlu’n golygu “rhwydd hynt” i droseddwyr gael eu hesgusodi.

Yn ôl Theresa Villiers, dydy’r Ustus Heather Hallett ddim o’r farn y dylai’r llythyron atal troseddwyr rhag cael eu herlyn.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r Ustus Hallett yn glir iawn ar fater canolog a yw cynllun gweinyddol ar gyfer troseddwyr sydd wedi ffoi wedi atal terfysgwyr dan amheuaeth rhag cael eu herlyn.  

“Mae’n dod i’r casgliad ‘nad oedd y cynllun gweinyddol yn cyfateb i amnest i derfysgwyr’…

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn glir erioed y byddai unigolion sydd wedi ffoi yn cael eu harestio a’u herlyn yn y ffordd arferol pe bai digon o dystiolaeth yn dod i’r golwg.

“Felly rwy’n ailadrodd heddiw wrth y bobol sydd wedi derbyn y llythyron hyn – fyddan nhw ddim yn eich diogelu chi rhag cael eich arestio na’ch erlyn a phe bai’r heddlu’n llwyddo i gasglu digon o dystiolaeth, mi fyddwch chi’n destun y broses gyfreithiol.”

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal wedi i achos llys yn erbyn dyn oedd wedi’i gyhuddo o lofruddio pedwar milwr yn Hyde Park yn Llundain ddod i ben heb reithfarn.

Roedd John Downey wedi’i amau o osod bom yn y parc yn 1982 ond daeth yr achos yn yr Old Bailey i ben ym mis Chwefror ar ôl i dystiolaeth ddangos ei fod wedi derbyn un o’r cyfryw lythyron yn 2007 ar gam.

Ar y pryd, roedd Heddlu Llundain yn dal yn awyddus i’w holi.

Penderfynodd y barnwr yn yr achos nad oedd y drefn gywir wedi’i dilyn wrth ei arestio ym Maes Awyr Gatwick na’i erlyn.

Cafodd Heddlu Gogledd Iwerddon eu beirniadu am eu rhan yn y ffrae.

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth i’r amlwg fod dau achos tebyg wedi codi lle cafodd llythyron eu hanfon at Weriniaethwyr ar gam.