Ffair Tafwyl 2013 (Llun llyfrgell)
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu agor canolfan addysgiadol a chymdeithasol yng nghanol Caerdydd er mwyn hybu’r deunydd o’r iaith yn y brifddinas.

Menter Caerdydd fydd yn arwain y prosiect ar ran y Cyngor ac fe gyhoeddwyd y manylion ar ddiwrnod cyntaf Tafwyl, sef gŵyl gymunedol y brifddinas.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, bod y datblygiad yn un “hynod gyffrous”.

“Ein gobaith yw y bydd y lleoliad yn arwyddocaol ac yn groesawgar i bobl Caerdydd ac ymwelwyr o Gymru a thu hwnt. Mae Tafwyl yn arwydd o lwyddiant y Gymraeg yn y brifddinas ac mae’n wych gweld Cyngor Caerdydd yn cefnogi twf yr iaith yma mewn ffordd ymarferol a strategol.”

Hanes Tafwyl

Cafodd Tafwyl ei sefydlu yn 2006 gan Fenter Caerdydd yng ngardd tafarn y Mochyn Du. Aeth o nerth i nerth gan symud i dir Castell Caerdydd yn 2012.

Llynedd, penderfynodd Cyngor Caerdydd roi’r gorau i noddi’r ŵyl er mwyn arbed arian ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu gyfrannu £20,000 gan ddisgrifio’r ŵyl fel achos unigryw.

Mae’r llywodraeth wedi cyfrannu’r un swm eto eleni ac mae’r trefnwyr hefyd wedi cael arian ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Diolch i’r arian ychwanegol, mae’r ŵyl wedi tyfu yn fwy fyth a bellach yn cynnwys perfformiadau cerddorol a sesiynau coginio, drama, celf a chrefft a gweithgareddau llenyddol.