Un o daflenni cyngor Age Cymru (o wefan yr elusen)
Mae elusen sy’n cynrychioli pobol oedrannus yn dweud y gallai miloedd o deuluoedd golli arian mawr oherwydd diffyg cyhoeddusrwydd gan Lywodraeth Cymru a’r Byrddau Iechyd.
Yn ôl Age Cymru, does dim digon o bobol y gwybod am yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau tros gostau gofal mewn cartrefi i bobol hŷn.
Maen nhw’n dweud nad yw’r Llywodraeth na’r Byrddau Iechyd wedi rhoi digon o gyhoeddusrwydd i hynny a bod y cyfnod hawlio’n rhy fyr beth bynnag.
‘Dim digon o gyhoeddusrwydd’
Dim ond tan ddiwedd y mis yma y mae cyfle i deuluoedd hawlio arian Gofal Iechyd Parhaus oedd wedi ei wadu iddyn nhw – dri mis ers cyhoeddi’r cynllun.
Yn ôl Age Cymru, does dim llawer o bobol yn gwybod am y cyfle, hyd yn oed os oedden nhw’n gwybod am yr arian Gofal Iechyd Parhaus yn y lle cynta’.
Fe ddylai’r Llywodraeth a’r Byrddau Iechyd fod yn gwneud mwy i dynnu sylw at yr hawl i apelio, meddai llefarydd ar ran y corff wrth Radio Wales.
Y cefndir
Mae’r ddadl yn ymwneud â hawl pobol i gael arian am ofal parhaus – os yw’n fater o ofal cymdeithasol, does dim hawl; os yw’n fater iechyd, dylai pobol gael y grant Gofal Iechyd Parhaus.
Yn ôl Age Cymru, doedd llawer o bobol ddim yn gwybod am yr arian ac felly heb wneud cais amdano; roedd eraill wedi cael eu gwrthod ar gam.
Mae ymgyrchwyr yn dweud mai dim ond 29 cais sydd wedi eu gwneud hyd yn hyn a bod Llywodraeth Prydain wedi rhoi chwech mis ar gyfer cynllun tebyg yn Lloegr.